
Neges heddwch yr Urdd wedi 'cyffwrdd calonnau' pobl Okinawa
Neges heddwch yr Urdd wedi 'cyffwrdd calonnau' pobl Okinawa
Mae newyddiadurwr o Abertawe sydd wedi ymgartrefu yn Japan ers bron i 30 mlynedd wedi dweud ei fod yn benderfynol o rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd mor eang â phosib.
Mae Jon Mitchell yn byw ar ynys yn Japan o’r enw Okinawa ac yn gweithio i bapur newydd yr Okinawa Times fel newyddiadurwr ymchwiliadol.
Ond ar ôl treulio 15 mlynedd yn adrodd ar hanesion pobl Okinawa, ac ar drothwy ei ben-blwydd yn 50, roedd Mr Mitchell yn ysu i ddeall mwy am hanes ei famwlad.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C dywedodd ei fod yn awyddus i ddysgu mwy am hanes yr iaith Gymraeg ac “ymrwymiad [y wlad] i heddwch".
Fel rhan o’i waith ymchwil fe ddysgodd am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24, oedd yn ymrwymiad i barhau i weithredu dros heddwch, a gafodd ei harwyddo gan bron i 400,000 o fenywod dros ganrif yn ôl.
Pan gafodd Mr Mitchell wybod y byddai’r ddeiseb yn sail i neges heddwch yr Urdd y llynedd, penderfynodd y byddai ei chyfieithu i iaith Okinawa, sef Uchinaaguchi, yn gyfle “ardderchog” i fagu perthynas a dealltwriaeth “rhwng y ddau le dwi’n ei garu fwyaf yn y byd.”
Gyda chymorth yr ieithydd Fija Byron Sensei o Okinawa, fe gafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2024 ei chyfieithu a’i chyhoeddi ar dudalen flaen yr Okinawa Times.
Ac mae golygyddion y papur newydd bellach wedi dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i gyfieithu’r neges flynyddol “bob blwyddyn” o hyn allan.

'Diolchgar'
Dywedodd Mr Mitchell ei fod yn awyddus i rannu’r neges gyda “chynifer o bobl â phosib” gan ei bod yn cynnig “llygedyn o obaith yn ystod y cyfnod tywyll hwn".
“Sefydlwyd ein papur newydd, Okinawa Times, ym 1948 yng nghanol gweddillion Brwydr Okinawa - o ganlyniad, un o'n hegwyddorion yw hyrwyddo heddwch," meddai.
“Pan welodd ein darllenwyr yr erthygl yn esbonio hanes neges flynyddol yr Urdd, fe wnaeth hi gyffwrdd â llawer o galonnau ac roedd pobl yn awyddus i ddysgu mwy am y tebygrwydd rhwng Cymru ac Okinawa."

Roedd y broses o gyfieithu’r neges yn hollbwysig i Fija Byron Sensei hefyd, meddai wrth Newyddion S4C.
Mae ‘na hanes cythryblus rhwng Okinawa a Japan, esboniodd. Roedd Okinawa yn deyrnas annibynnol o’r enw Ryukyu, ond yn ystod y canrifoedd diwethaf mae’r ynys wedi dod o dan reolaeth Japan (yn ogystal â’r Unol Daleithiau am gyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd).
“Ym 1879, fe gafodd ein cenedl Ryukyu ei chymryd oddi wrthym gan Japan," meddai. "Ers hynny ‘da ni wedi cael ein gorfodi i gael ein haddysg drwy system sydd wedi ein troi ni yn ddinasyddion Japaneaidd.
“Drwy gyfieithu’r gerdd hon o Gymru, fe wnes i sylweddoli rhywbeth pwerus – mae gennym ni, fel Ryukyuaniaid, yr hawl i ddweud mai pobl Ryukyu ydym ni, nid pobl Japan.
“Am hynny, rydw i’n ddiolchgar iawn.”

'Hanes tebyg'
O hanes yr iaith i falchder nifer o bobl am eu diwylliant, mae Jon Mitchell yn dweud bod ‘na “hanes tebyg” rhwng Cymru ac Okinawa.
“Yr hyn sy'n wirioneddol drawiadol i mi yw defnydd y ddwy genedl o damaid o bren a gafodd eu defnyddio er mwyn cosbi pobl.
“Yng Nghymru, roedd gennym y ‘Welsh Not’ ac yn Okinawa roedd ganddyn nhw system union yr un fath o’r enw 'hogan fuda'.
“I nifer o bobl, fe wnaeth hyn feithrin teimlad o israddoldeb o ran eu hieithoedd eu hunain ac fe wnaeth hyn ymestyn ymhellach fyth i’w diwylliant hefyd.”
Fel ieithydd profiadol, mae Fija Byron Sensei yn benderfynol o adfywio a diogelu’r iaith Uchinaaguchi. Mae’n dweud bod hanes yr iaith Gymraeg a’i hadfywiad yn “werthfawr iawn” o ganlyniad.
“Dwi’n credu mai Cymru, Catalwnia, a Hawai sydd ymhlith yr enghreifftiau mwyaf llwyddiannus pan ddaw at ymdrechion i adfywio ieithoedd – a hynny allan o’r mwy na 7,000 o ieithoedd lleiafrifol yn y byd.
“Mae negeseuon fel y rhai a ddaw gan yr Urdd yn hollbwysig i bobl ledled y byd sydd yn gweithio’n galed i adfywio ieithoedd lleiafrifol,” meddai.

'Codi ymwybyddiaeth'
Mae Fija Byron Sensei a Jon Mitchell ar y cyd bellach yn benderfynol o bontio rhwng y ddwy genedl.
“Yn ystod y blynyddoedd i ddod, bydda’i a Fija Sensei yn gwneud ein gorau i barhau i godi ymwybyddiaeth rhyngom,” medd Mr Mitchell.
Mae gwaith Jon Mitchell fel awdur a newyddiadurwr wedi cyfrannu at “newidiadau go iawn” o ran hawliau dynol pobl Okinawa.
Mae hynny’n cynnwys datgelu gwybodaeth a arweiniodd at lywodraeth Japan yn cyflwyno canllawiau ynglŷn â dŵr yfed a fyddai’n diogelu trigolion rhag halogiad a gafodd ei achosi gan fyddin yr Unol Daleithiau. Mae wedi derbyn sawl wobr am ei waith.
Mae Fija Byron Sensei yn frwd dros ymgyrchu am adfywiad ieithoedd Ryukyu ac mae wedi gwneud gwaith ymchwil i'r iaith Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill all fod o gymorth i'r ymgyrch honno, meddai.
