Newyddion S4C

‘Nes i newid fy lleoliad ar Tinder am hwyl - rŵan dwi’n symud i Texas’

Dakota a Lucy
Dakota a Lucy

Mae dynes o Wrecsam wnaeth newid ei lleoliad ar ap ddetio “am hwyl” wedi cyfarfod dyn o America ac yn bwriadu symud yno.

Fe wnaeth Lucy Hughes, 24, gyfarfod ei phartner Dakota Vernon, technegydd rheilffordd o Texas, ar ap Tinder yn 2020 yn ystod y cyfnod clo.

A hithau ddim yn cael gadael ei chartref, fe wnaeth Lucy benderfynu teithio'n rhithiol i America gyda Tinder Passport.

Nodwedd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr newid eu lleoliad yw Tinder Passport, gyda'r bwriad o ddarganfod pobl mewn gwledydd eraill.

Mae tua 10% o bobl heterorywiol a 24% o bobl LHDT wedi cyfarfod partner hirdymor ar-lein, yn ôl ymchwil diweddar.

A pum mlynedd yn ddiweddarach, mae Lucy wedi gwario dros £10,000 yn teithio i Texas ac yn y broses o gael fisa er mwyn iddi gael symud i’r dalaith.

“Dwi dal methu coelio bo’ fi mewn cariad efo Americanwr,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

“A dim jyst Americanwr, ond dyn o Texas a bo’ fi yn y broses o symud yno – dydi'r peth ddim i weld yn real.”

O Tinder i Texas

Ar ôl dwy flynedd o sgwrsio ar-lein, fe wnaeth Lucy hedfan i Texas i gyfarfod Dakota am y tro cyntaf.

Ond dywedodd nad oedd hi eisiau mynd i ddechrau, gan nad oedd hi erioed wedi bod yn America.

“Doedd gen i ddim syniad lle’r oedd unrhyw un o’r taleithiau," meddai.

“Yr unig daleithiau ro’n i’n eu hadnabod oedd Efrog Newydd a Fflorida.”

Image
Dakota a Lucy yn Texas

Yn y pen draw, fe wnaeth ffrindiau Lucy lwyddo i’w pherswadio i gipio'r cyfle.

Ond roedd hi'n awyddus i wneud gwaith ymchwil am gefndir Dakota er budd ei diogelwch.

“Ro’n i’n ei adnabod ers dwy flynedd, felly ro’n i’n gwybod dipyn amdano a’i deulu,” meddai.

“Ond dyddiau yma, ‘da chi byth yn gallu bod yn rhy ofalus.”

Dywedodd ei bod wedi gwneud archwiliadau, gan gynnwys gwirio nad oedd ganddo unrhyw gofnodion troseddol.

Image
Texas

A hithau’n dogfennu’r daith ar TikTok, mae Lucy yn awyddus i hyrwyddo diogelwch i'w dilynwyr.

“Rwy’n dweud wrth pobl i fod yn ofalus,” meddai.

“Da chi’n rhydd i wneud beth bynnag 'da chi eisiau, ond jyst byddwch yn ofalus.”

Yn ôl Lucy, mae bywyd yn Texas yn wahanol iawn i Gymru.

“Mae’n hollol wallgof, mae fel rhywbeth allan o ffilm,” meddai.

Image
Bwts cowboi

“Rwyt ti’n deffro ac yn eistedd tu allan efo dy goffi, ac mae gen ti’r ieir drws nesa a phobl yn marchogaeth ceffylau i fyny ac i lawr y lôn," meddai.

“Mae pawb yn cerdded o gwmpas mewn hetiau a bŵts cowboi ac mae ganddyn nhw ynau ar eu gwregysau, mae jyst yn hollol wallgof.”

Fe aeth ymlaen i ddweud bod y sefyllfa wleidyddol yn America yn “bryder”, gan na fydd hi’n ddinesydd yr UDA am hyd at bum mlynedd arall.

Ond dywedodd nad oedd hi'n mynd i adael i wleidyddiaeth ei rhwystro rhag adeiladu bywyd gyda'i phartner.

Mae'r cwpl yn bwriadu mynd i'r NFR yn Las Vegas ym mis Rhagfyr, gan yna fynd i Montana neu Wyoming ar eu mis mêl.

Image
Lucy gyda teulu Dakota

Er ei bod yn edrych ymlaen i’w bywyd newydd, dywedodd y bydd hi'n colli Cymru.

“Diwrnod o’r blaen mi es i am run a nes i ddechrau crio wrth edrych ar y caeau gwyrdd, achos does ganddo ni ddim caeau gwyrdd yn Texas,” meddai.

“Rhai diwrnodau dwi’n iawn, dyddiau eraill dwi’n meddwl: dw i wir am fethu hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.