Y Conclaf: Dechrau'r broses o ethol y Pab nesaf
Bydd y cyfarfod y tu ôl i ddrysau caeedig i ethol arweinydd newydd i arwain yr Eglwys Gatholig yn dechrau ddydd Mercher.
Daw hyn wedi marwolaeth y Pab Ffransis yn 88 oed yn ei gartref, Casa Santa Marta, ar fore Llun y Pasg.
Mae'r Conclaf ('gydag allwedd') yn cyfeirio at gyfarfod y cardinaliaid a fydd yn ymgynnull yng Nghapel Sistina i bleidleisio i ethol y Pab nesaf.
Y Cardinaliaid, sef uwch swyddogion o fewn yr eglwys sy’n ei gynghori, a fydd yn dewis y Pab nesa'.
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?
Er fod yna 250 o gardinaliaid ar draws 90 o wledydd, dim ond y rhai sydd o dan 80 oed sy'n cael pleidleisio, sef 133 o gardinaliaid.
Bydd y diwrnod yn dechrau gyda gwasanaeth ym Masilica San Pedr a fydd yn cael ei fynychu gan bob cardinal a fydd yn pleidleisio.
Byddan nhw yna yn mynd i Gapel Sistina i ddechrau pleidleisio, ac yn cael eu gwahardd rhag cyfathrebu mewn unrhyw ffordd gyda'r byd y tu allan.
Fe fydd modd i gardinaliaid bleidleisio bedair gwaith y dydd, heblaw am ar y diwrnod cyntaf.
Fe wnaeth y Conclaf yn 2005 i ethol y Pab Benedict a'r Conclaf yn 2013 i ethol y Pab Ffransis bara dau ddiwrnod yr un.
Ond mae yna ragweld y gallai'r conclaf presennol barhau yn hirach am nad oes ffefryn amlwg.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1919813950163538207
Pwy ydy'r ffefrynnau?
Er fod yna ddyfalu wedi bod am y ceffylau blaen, fe wnaeth un arbenigwr ddisgrifio canlyniad y Conclaf yma fel un "nad yw'n hawdd ei ragweld".
Dywedodd yr Athro Anna Rowlands, diwinydd (theologian) o’r DU, fod hyn oherwydd fod cyfansoddiad Coleg y Cardinaliaid yn "wahanol iawn i unrhyw un sydd wedi bod yma i ethol Pab o’r blaen”. Mae niferoedd uwch na'r arfer o etholwyr o Affrica ac Asia, a gafodd eu dewis gan y Pab Ffransis meddai.
Ymysg yr enwau sydd wedi dod i'r amlwg y mae'r Cardinal Luis Tagle, 67, o Ynysoedd y Philippines. Y gred oedd y mai ef oedd dewis cyntaf y Pab Ffransis ar gyfer y Pab Asiaidd cyntaf.
Mae enwau eraill yn cynnwys y Cardinal Peter Erdo, 72, Archesgob Budapest; y Cardinal Reinhard Marx, 71, Archesgob Munich a Freising; a'r Cardinal Pietro Parolin, 70, o'r Eidal a wnaeth wasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol y Pab Ffransis ers 2014.
Mae'r Cardinal Pierbattista Pizzaballa, Patriarch Jeriwsalem, hefyd wedi ei grybwyll fel ymgeisydd posib arall sy'n wreiddiol o'r Eidal.
Ond fe allai fod yn rywun sydd heb ei grybwyll braidd o gwbwl. Ychydig iawn oedd wedi trafod enw Jorge Mario Bergoglio cyn ei ethol yn y Pab Francis yn 2013, er bod adroddiadau ei fod wedi dod yn agos at y brig yn 2005.
Sut y byddwn ni'n gwybod fod y Pab newydd wedi ei ethol?
Fe fydd llygaid y byd yn gwylio lliw y mwg a fydd yn codi o simdde Capel Sistina.
Mae'r papurau pleidleisio yn cael eu llosgi ar ôl y bleidlais, ac fe fydd mwg du yn datgan nad oes unrhyw un wedi'i ethol eto.
Bydd mwg gwyn yn datgan fod Pab newydd wedi'i ethol.
Mae angen mwyafrif o ddwy ran o dair i ethol Pab newydd.