'Cosbi' troseddwyr sy'n osgoi mynychu eu gwrandawiadau dedfrydu
Fe fydd modd i farnwyr yng Nghymru a Lloegr gosbi troseddwyr sy'n gwrthod mynychu eu gwrandawiadau dedfrydu os yw deddf newydd yn cael sêl bendith Tŷ'r Cyffredin.
Byddai'r sancsiynau llymach yn cynnwys rhagor o amser yn y carchar neu golli breintiau yn y carchar.
Bydd Bil Dioddefwyr a Llysoedd y Llywodraeth yn cael ei gyflwyno yn San Steffan ddydd Mercher.
Daw hyn wedi i nifer o droseddwyr wrthod wynebu teuluoedd dioddefwyr.
Ni wnaeth Thomas Cashman, a wnaeth lofruddio'r ferch naw oed Olivia Pratt-Korbel yn Lerpwl yn 2022, ymddangos yn y llys ar gyfer ei ddedfryd. Fe gafodd Cashman ei garcharu am oes.
Yn gynharach eleni, gwrthododd Kyle Clifford ag ymddangos yn y gwrandawiad i'w ddedfrydu.
Fe gyfaddefodd Clifford iddo saethu ei gyn gariad a'i chwaer gyda bwa croes y llynedd, a thrywanu eu mam i farwolaeth. Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes.
Roedd Louise a Hannah Hunt yn ferched i'r sylwebydd rasio ceffylau John Hunt, a Carol Hunt yn wraig iddo.
Fe wnaeth Axel Rudakubana a lofruddiodd tair merch fach yn Southport ym mis Gorffennaf y llynedd hefyd osgoi wynebu teuluoedd y dioddefwyr ar ôl i'r barnwr ofyn iddo adael y doc wrth iddo weiddi sawl gwaith.
Mae achosion blaenllaw eraill lle roedd y troseddwyr yn absennol o'u gwrandawiadau dedfrydu yn cynnwys y llofrudd plant Lucy Letby a llofrudd Zara Aleena, Jordan McSweeney.
O dan y ddeddfwriaeth newydd, byddai gan farnwyr y pŵer i ychwanegu dwy flynedd at ddedfrydau troseddwyr.
I'r rhai sydd eisoes yn wynebu cyfnod hir neu ddedfryd oes yn y carchar, byddai barnwyr yn gallu eu cosbi drwy orchymyn eu bod yn aros yn eu cell neu golli breintiau gan gynnwys amser ychwanegol yn y gampfa.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Shabana Mahmood: “Bydd y Bil hwn yn sicrhau diwygiadau hir-ddisgwyliedig er mwyn gwneud yn siwr fod dioddefwyr yn cael cyfiawnder ac yn cael y gefnogaeth hanfodol sydd ei hangen arnyn nhw wrth iddyn nhw ail-adeiladu eu bywydau."