Newyddion S4C

Rhybudd i beidio teithio i rannau o India a Phacistan wedi i daflegrau gael eu tanio

Gwrthdaro India a Phacistan

Mae teithwyr y DU wedi cael cyngor i beidio â theithio i rannau o India a Phacistan wrth i’r gwrthdaro gynyddu rhwng y ddwy wlad.

Mae swyddogion Pakistan wedi dweud fod o leiaf 19 o bobl wedi eu lladd a 38 wedi eu hanafu ar ôl i India danio taflegrau ar draws y ffin i dir sydd dan reolaeth Pacistan.

Mae India yn dweud eu bod wedi targedu adeiladau a gafodd eu defnyddio gan filwyr a oedd yn gysylltiedig â chyflafan twristiaid y mis diwethaf yn rhan o Cashmir sydd dan reolaeth India.

Mae tensiynau wedi cynyddu’n sylweddol rhwng y cymdogion ers yr ymosodiad.

Cyngor y Swyddfa Dramor yw y dylai teithwyr osgoi teithio o fewn 10 cilomedr i’r ffin rhwng India. a Phacistan, a thalaith Balochistan ym Mhacistan.

Mewn datganiad maent yn dweud eu bod yn parhau i fonitro’r sefyllfa.

“Dylai dinasyddion ddarllen ein cyngor teithio diweddaraf a dilyn cyngor yr awdurdodau lleol.”

Mae’r cyn-weinidog Torïaidd, yr Arglwydd Ahmad, wedi rhybuddio bod y “potensial am ryfel heno yn real”.

Dywedodd swyddogion Pacistanaidd fod yr ymosodiadau wedi taro o leiaf dau safle a oedd yn gysylltiedig â grwpiau milwrol gwaharddedig.

Tarodd un Mosg Subhan yn ninas Bahawalpur yn Punjab, gan ladd 13 o bobl gan gynnwys plentyn, yn ôl Zohaib Ahmed, meddyg mewn ysbyty cyfagos.

Fe gafodd o leiaf saith o sifiliaid eu lladd hefyd yn Cashmir gan fomiau Pacistan, meddai byddin India.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.