Gostwng oedran gyrru trên i 18
Bydd unigolion sydd yn 18 oed yn cael yr hawl i yrru trenau yn sgil pryderon am brinder gyrwyr.
Mae adran trafnidiaeth Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr oedran yn newid o 20 i 18.
Yn aml mae gwasanaethau trên yn cael eu hamharu am fod y cwmnïau trenau yn dibynnu ar yrwyr yn gweithio shifftiau ychwanegol yn wirfoddol er mwyn cwrdd â’r amserlen deithio.
Gobaith Llywodraeth San Steffan yw y bydd torri’r oed y gall pobl gymhwyso i yrru trên yn lleihau'r ddibyniaeth ar hyn.
Maent yn dweud bod 87% o deithiau sydd yn cael eu canslo'r noson cynt yn digwydd o achos prinder gyrwyr.
48 oed yw oedran cyfartaledd gyrrwr trên ym Mhrydain ac mae disgwyl i 30% gyrraedd oed ymddeol erbyn 2029.
Mae llai na 9% yn fenywod tra bod llai na 12% o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Mae yna hefyd ddarogan y bydd y gweithlu yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf wrth i yrwyr ymddeol yn gynt nag y mae rhai newydd yn cael eu recriwtio.
Yn ôl yr adran trafnidiaeth roedd yna “gefnogaeth lwyr” i’r syniad pan gafodd ymgynghoriad ei gynnal ar y mater y llynedd.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Heidi Alexander eu bod yn cymryd “camau beiddgar i wella gwasanaethau trenau” ac y bydd hyn yn arwain at greu miloedd o swyddi.
Ychwanegodd: “Rydym yn diogelu ein rheilffyrdd at y dyfodol rhag oedi a chansladau sydd yn cael eu hachosi gan brinder gyrwyr, gan sicrhau y gallwn ddarparu teithiau trên dibynadwy sy’n canolbwyntio ar deithwyr o dan y Great British Railways (GBR) am ddegawdau i ddod.”
Bwriad y llywodraeth yw sefydlu’r GBR fel corff cyhoeddus newydd fydd yn goruchwylio gwasanaethau trenau.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Aslef, Mick Whelan mae’r cyhoeddiad yn un i’w groesawu.
“Ar hyn o bryd mae pobl ifanc sydd eisiau bod yn yrwyr trenau yn gadael ysgol neu goleg yn 18, yn cael swyddi eraill ac rydyn ni fel diwydiant yn colli allan gan nad ydyn nhw yn disgwyl tan eu bod yn 20 oed cyn dod o hyd i yrfa.”
Ychwanegodd y byddai’r polisi newydd yn “cynyddu’r amrywiaeth” o safbwynt gyrrwr ac yn annog mwy o bobl ifanc i wneud y swydd.
Fe fydd yna sawl cam cyn y bydd modd cyflwyno’r newid oedran. Yn eu plith mae diwygio cyfreithiau a chynlluniau i gael pobl fwy ifanc i fod yn rhan o’r gweithlu.
Mae gwledydd eraill hefyd wedi gostwng yr oedran y gall person yrru trên medd y llywodraeth gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen a’r Swistir.
Fe allai swyddi newydd a chyfleoedd prentisiaethau i bobl 18 oed fod ar gael o fis Rhagfyr ymlaen.