Creu cofrestr i ddiogelu treftadaeth afalau
Mae Cofrestr Genedlaethol wedi ei chreu er mwyn ceisio diogelu treftadaeth mathau gwahanol o afalau.
Daw’r gofrestr wedi i ymchwil ddarganfod bod Cymru a Lloegr wedi colli dros hanner eu perllannau ers 1900.
Mae hyn wedi digwydd medd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o achos bod y tir wedi eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol yn lle tyfu coed afalau.
Yn sgil hyn mae arbenigwyr wedi bod yn chwilio am fathau gwahanol o afalau sydd yn fwy prin neu yn bwysig o safbwynt treftadaeth mewn gerddi a pherllannau yng Nghymru a rhai o siroedd Lloegr.
Maent rŵan yn meddwl eu bod wedi casglu digon o dystiolaeth i sefydlu cofrestr. Bydd y gofrestr yn ffordd i gofnodi a rhannau’r mathau gwahanol o afalau sydd yn bodoli nawr. Y gobaith yw hefyd annog parhad tyfu coed afalau.
Mae 29 math o afalau wedi eu rhoi ar y rhestr. Yn eu plith mae Brithmawr, Afal Ynys Enlli, Afal Aeron a Marged Niclas.
Yng Nghymru mae afalau wedi bod yn cael eu tyfu ers dros fil o flynyddoedd.
Mae cyfeiriadau atynt mewn caneuon gwerin, llenyddiaeth ac enwau lleoedd.
Dywedodd Carwyn Graves, arbenigwr adnabod Afalau ac awdur llyfrau am afalau,
“Roedd treftadaeth afalau unigryw Cymru bron â mynd yn angof rhyw ddegawd neu ddau yn ôl, ond mae ganddi werth diwylliannol sylweddol - sy’n cael ei adlewyrchu ym mhopeth, o ganeuon gwerin poblogaidd yn seiliedig ar afalau a pherllannau i draddodiad seidr ffermdy eithriadol o ddiddorol sy’n ymestyn yn ôl i’r Canol Oesoedd!”
Ychwanegodd: “Yn gyffrous iawn, cyn belled ag y gwyddom ni, dyma’r Gofrestr Genedlaethol cyntaf o’i bath sy’n dosbarthu isrywogaethau - felly mae’n cynnwys mathau sydd wedi ymddangos yn rhywle arall neu o fewn ardal hanesyddol y Mers ond sydd wedi datblygu cysylltiadau diwylliannol cryf gyda chymunedau yng Nghymru.”
Bydd gan y gofrestr dri chategori gwahanol sef rhai ‘Hanesyddol’ sy’n dyddio o cyn y 1950au, ‘modern’ sy’n cael eu hadnabod fel rhai sydd wedi eu tyfu wedi’r 1950au a ‘chysylltiedig’, sy’n afalau nad ydynt wedi cael eu bridio yng Nghymru, ond sydd wedi bod yn arwyddocaol yn ddiwylliannol.
Mae 35 math arall o afalau yn cael eu hystyried ar gyfer y Gofrestr Genedlaethol. Hefyd mae yna goed coll o afalau yng Nghymru sydd dal i’w canfod megis Forman’s Crew, Bassaleg Pippin a Pêr Gwenyn.