India a Phacistan wedi cytuno ar gadoediad ‘llawn ac ar unwaith’
Mae India a Phacistan wedi cytuno ar “gadoediad llawn ac ar unwaith” ddydd Sadwrn.
Daw'r cadoediad wedi i densiynau godi yn Kashmir wrth i lywodraethau'r ddwy wlad gyhuddo ei gilydd o danio taflegrau.
Dywedodd India fod y saib yn yr ymladd rhwng y ddwy wlad wedi dod i rym am 17:00 amser lleol (13:00 amser Cymru).
Ond maen nhw eisoes wedi cyhuddo Pacistan o dorri y cytundeb "sawl gwaith".
Dywedodd dirprwy brif weinidog Pacistan: "Mae Pacistan bob amser wedi ymdrechu am heddwch a diogelwch yn y rhanbarth, heb gyfaddawdu ar ei sofraniaeth a chywirdeb tiriogaethol.”
Yn gynharach, dywedodd Arlywydd UDA Donald Trump fod y cadoediad yn ganlyniad i “noson hir o sgyrsiau a drefnwyd gan yr Unol Daleithiau”.
'Pryfoclyd'
Roedd India wedi cyhuddo Pacistan o ddefnyddio taflegrau i dargedu ei chanolfannau milwrol, oriau ar ôl i Bacistan gyhuddo India o danio tri thaflegryn o'i meysydd awyr milwrol.
Fe wnaeth byddin India gyhuddo Pacistan o "ddwysáu" a bod yn "bryfoclyd" tra bod byddin Pacistan yn honni eu bod wedi dinistrio rhai o systemau amddiffyn India - rhywbeth yr oedd Delhi wedi ei wadu.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe darodd India dargedau ym Mhacistan a Kashmir sy’n cael ei weinyddu gan Bacistan mewn ymateb i ymosodiad terfysgol ar dwristiaid Indiaidd yn Pahalgam y mis diwethaf. Mae Islamabad wedi gwadu cymryd rhan.
Mae'r ddwy ochr yn cyhuddo ei gilydd o saethu ar draws y ffin ac ymosodiadau taflegrau a dronau ers i India weithredu’n filwrol.
Mae Kashmir sy’n cael ei weinyddu gan India wedi gweld gwrthryfel am ddegawdau gyda miloedd o bobl wedi eu lladd.
Mae India a Phacistan yn hawlio Kashmir yn llawn.
Llun: X/Defence_PK99