Newyddion S4C

Sioe gerdd i edrych ar 'ochr dywyll y byd pasiant' drwy fywyd Miss World o Gymru

Paul McCartney a Rosemarie Frankland
Rosemarie Frankland

Bydd sioe gerdd newydd yn edrych ar ochr dywyll y byd pasiant drwy fywyd cyn-enillydd Miss World o ardal Wrecsam.

Roedd Rosemarie Frankland o Rosllannerchrugog yn gweithio mewn siop Marks & Spencer pan gafodd ei darganfod fel cystadleuydd.

Yn 18 oed, hi oedd y ddynes gyntaf o'r Deyrnas Unedig i ennill cystadleuaeth Miss World a hynny yn Llundain yn 1961.

Fis yn ddiweddarach fe ymunodd â chyflwynydd y gystadleuaeth, Bob Hope, ar daith i'r Arctig.

Y gred yw ei bod wedi cael perthynas gyda'r digrifwr priod a wnaeth ei chefnogi i symud i Los Angeles i fod yn actores.

Ond byr oedd yr yrfa honno ac fe aeth y Gymraes ymlaen i fod yn gynorthwyydd personol iddo.

Yn 1970, fe briododd y cerddor Warren Entner, gan roi genedigaeth i ferch chwe blynedd yn ddiweddarach.

Bu farw o ganlyniad i hunanladdiad ym mis Rhagfyr 2000 yng Nghaliffornia yn dilyn cyfnod o iselder.

O Gymru i Galiffornia

Daeth egin y syniad i gynnal sioe gerdd am fywyd Frankland gan gyfarwyddwr Theatr Clwyd, Daniel Lloyd.

Ac yntau wedi'i fagu yn ei phentref genedigol, dywedodd Daniel ei fod wedi cael ei "swyno" gan ei hanes "rhyfeddol".

"Dw i'n cofio mam yn sôn am y ddynes ddela’n y byd o Rosllannerchrugog a chael fy swyno gan hynna," meddai wrth Newyddion S4C.

"A hefyd yn clywed amdani hi’n mynd i America ar freuddwyd transatlantic – rhywun o bentre bach yn gogledd Cymru yn cael treulio amser efo sêr Hollywood.

"Roedd 'na straeon amdani hi'n treulio amser efo The Beatles, felly roedd hi’n rubbing shoulders efo rhai o gewri diwylliannol yr oes."

Ychwanegodd ei bod hefyd yn "gyfathrebwr arbennig" oedd yn defnyddio'r Gymraeg drwy gydol ei bywyd.

Image
Daniel Lloyd, Theatr Clwyd
Mae Daniel Lloyd yn cyfarwyddo'r sioe gerdd ar y cyd gyda Francesca Goodridge a Dylan Townley yn Theatr Clwyd

Er ei fod yn awyddus i "ddathlu" bywyd Rosemarie Frankland, mae'n dweud mai'r bwriad yw taflu goleuni ar y ffordd y mae menywod yn cael eu trin yn y byd pasiant.

"Mae o’n cael ei weld fel rhywbeth sy’n derogatory ac mae 'na gwestiynau mawr teilwng am sut mae’r merched yma’n cael eu trin a’u portreadu," meddai.

"Ac mae hynny i weld â relevance fodern hefyd achos oedda ni’n siarad am y parallels rhwng Rosemarie a rhywun fel Caroline Flack, neu y reality stars 'ma sy’n cael yr holl lwyddiant ond wedyn ddim yn cael y gefnogaeth.

"Felly, dydi o ddim jyst yn ddarn hanesyddol am Rosemarie, mae’n gerbyd i ni drafod y pynciau yma."

Ychwanegodd: "Un o’r cwestiynau sydd wrth wraidd ein sioe ydi, 'Pwy sydd gan yr hawl na i feirniadu?', achos mae’r byd pasiant i gyd yn ymwneud â hynny.

"Ac mae cymdeithas yn dal i fod yn feirniadol iawn o ferched."

Yn ôl Daniel Lloyd, bydd y cast yn cynnwys menywod yn unig er mwyn iddyn nhw gael "perchnogi" y stori.

"Roedd 'na wbath anghyffyrddus am weld actorion gwrywaidd ar lwyfan yn siarad yn frwnt efo merched drwy drio ail-greu’r trais," meddai.

"Felly o’n i’n meddwl, 'Beth os ydi o i gyd yn cael ei drin o’r ongl fenywaidd ac wedyn pwsio hwnna yn fwy eithafol i rili afael yn y peth mewn ffor' trawiadol?'

"Mae’n rhoi’r ownership 'na i ferched sydd efo'r lived experience – oedd o jyst yn teimlo’n bwysig bod y stori yna’n cael ei ddweud o’r ongl yna."

Fel rhan o'r gwaith ymchwil dros y chwe blynedd diwethaf, mae'r tîm wedi bod yn cyfweld â chyn-enillwyr cystadlaethau pasiant.

Maen nhw hefyd wedi bod yn cydweithio gyda merch Rosemarie Frankland sy'n gefnogol iawn o'r prosiect.

Y gobaith yw y bydd y sioe gerdd yn cael ei hagor yn Theatr Clwyd yng ngwanwyn 2027.

Llun: Reuters

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.