Newyddion S4C

Carcharu dyn am frathu ei fab a’i daro gyda’i ffon

Anthony O’Connell

Mae dyn wedi ei garcharu am frathu ei fab a’i daro gyda’i ffon ar ôl pryd o fwyd teuluol.

Roedd Anthony O’Connell, 58 oed, sydd heb gyfeiriad sefydlog, yn gyfrifol am yr ymosodiad ym mis Mai 2024.

Roedd eisoes wedi ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar am ladrad ychydig wythnosau ar ôl yr ymosodiad.

Mae bellach wedi pledio’n euog i achosi niwed corfforol i’w fab ac wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar, fydd yn cyd-redeg a’r ddedfryd flaenorol.

Dywedodd y Rhingyll Kelly Richards bod troseddau Anthony O’Connell “wedi bod yn arbennig o drawmatig i’w deulu”.

“Mae’n fwy annerbyniol fyth bod y digwyddiad hwn wedi digwydd tra bod plant y dioddefwr - wyrion Anthony O’Connell - yn bresennol," meddai.

“Roedd anafiadau’r dioddefwyr yn gorfforol ac yn emosiynol. Gobeithiwn y bydd yn gallu gwella’n llwyr ym mhob agwedd yn dilyn gweithredoedd Anthony O’Connell.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.