Newyddion S4C

Dinas Dinlle: Cyngor Gwynedd yn penderfynu codi tâl parhaol am barcio ger y traeth

Dinas Dinlle

Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleiso o blaid codi tâl parhaol am barcio ger y traeth yn Ninas Dinlle.

Mewn cyfarfod o cabinet Cyngor Gwynedd dydd Mawrth, roedd aelodau'n ystyried cyflwyno codi tâl am barcio ger traeth Dinas Dinlle yn barhaol, ar ôl cyflwyno ffi am gyfnod prawf o chwech wythnos y llynedd.

Roedd y ffi yn ddadleuol gyda rhai o fusnesau y pentref yn mynegi pryderon y byddai twristiaid yn mynd i lefydd eraill.

Roedd yna hefyd bryderon yn ystod y gwanwyn bod y maes parcio yn llai na'r un blaenorol a hynny'n gorfodi pobl i barcio ar hyd y ffordd.

Yn y cyfarfod, fe wnaeth aelodau'r pwyllgor bleidleisio yn unfrydol o blaid mabwysiadu'r ffioedd newydd ar y safle.

Fe fydd y cyngor nawr yn parhau â'r gwaith o gyflwyno Gorchymyn Parcio Oddi ar Stryd nawr yn ogystal â chynnal ymgynghoriad pellach gyda chyrff statudol lleol a'r cyhoedd.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Llio Owen, ei fod yn "bwysig" bod amodau mewn lle er mwyn lleihau'r ffioedd i'r rhai sydd yn ymweld â'r traeth y tu allan i gyfnodau prysur neu am gyfnodau byr.

“Na’i fod yn onast a deud fod hyn di bod yn anodd a di bod yn drafodaethau anodd iawn dros y ddwy flynedd diwethaf wrth drafod sefyllfa parcio Dinas Dinlle," meddai.

"Mae lan y môr Dinas Dinlle yn bwysig iawn ac yn le agos iawn at galonnau lot o bobl leol, gan gynnwys fi. Mae o’n le dwi a fy etholwyr yn poeni’n gry’ amdano. 

"Mae'n rhaid i ni sicrhau felly bod yr awr gynta' am ddim, bod y codi ffioedd ddim ond yn dymhorol a ddim dros fisoedd y gaeaf, a bod y ffioedd yn cael eu codi rhwng 9 a 5 o’r gloch yn ystod y dydd, a bod hefyd docyn tymor rhesymol hefyd ar gael.

"Fydd hi’n bwysig bod y 15% yna yn cael ei neilltuo bob blwyddyn i gynnal a chadw’r maes parcio yn ei newydd wedd a bod ni hefyd yn monitro’r sefyllfa’n agos, os ydi codi ffioedd am greu problemau parcio eraill ar hyd lonydd Dinas Dinlle."

Dywedodd y cynghorydd Medwyn Hughes fod y penderfyniad angen cael ei wneud er mwyn fynd i adael â'r diffyg ariannol mae'r awdurdod yn ei wynebu.

“Da ni gyd yn ymwybodol bod ni fel cyngor wedi gorfod gwneud 74 o filiynau o doriadau yn y degawd diwethaf, a 'ma hwn yn rhan o’r broses yma yn anffodus," meddai.

“O wynebu’r her o’r fath, mae gwasanaeth wedi adnabod cyfle i ddatblygu cynllun rheoli ehangach ar gyfer y safle. 

“Mae traeth Dinas Dinlle yn denu nifer sylweddol o drigolion lleol ac mae’n debyg yn un o’r prif draethau yn Arfon, a hefyd yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr bob blwyddyn. 

“Tydi’r gwaith o ddatblygu cynllun i gyflwyno ffioedd ar gyfer parcio heb fod yn hawdd, a da ni wedi ystyried nifer o ffactorau a phryderon lleol.”

Fe fydd y ffi yn daladwy drwy beiriant, rhwng 9am-5pm, bob dydd.

Bydd am ddim i barcio am hyd at awr; £2.20 am hyd at ddwy awr; £4.20 am hyd at bedair awr; £6 am hyd at wyth awr a £30 am docyn tymor.

Yn ôl adroddiad y cyngor, yr incwm targed o'r ffi maes parcio fydd £57,930 ar gyfer 2025/26.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.