Newyddion S4C

Corff y Pab Ffransis wedi ei symud i Fasilica San Pedr

23/04/2025

Corff y Pab Ffransis wedi ei symud i Fasilica San Pedr

Mae corff y Pab Ffransis wedi cael ei symud i Fasilica San Pedr yn Ninas y Fatican fore Mercher, ac fe fydd yn aros yno tan iddo gael ei gladdu wedi'r angladd ddydd Sadwrn. 

Cyn hyn, roedd ei gorff yn gorwedd mewn capel yn ei gartref yn Casa Santa Marta, a hynny ger Basilica San Pedr. 

Bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi teyrngedau iddo o 10:00 ddydd Mercher tan 19:00 ddydd Gwener. 

Fe gyhoeddodd y Fatican fore Mawrth y bydd ei angladd yn cael ei gynnal ar Sgwâr San Pedr am 10.00 ddydd Sadwrn. 

Mae Tywysog Cymru, Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, Arlywydd America, Donald Trump ac Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky ymhlith y rhai a fydd yn mynd i'r angladd.

Bu farw’r Pab ar fore Llun y Pasg yn 88 oed o strôc a phroblemau gyda'i galon. 

Ffransis yw’r Pab cyntaf mewn dros ganrif i ddewis peidio â chael ei gladdu yn y Fatican. 

Bydd yn cael ei gladdu yn Eglwys y Santes Fair yn Rhufain.

Camau nesaf

Wedi cyfnod swyddogol o alaru, bydd y broses yn dechrau o ethol Pab newydd gyda’r pleidleisio’n dueddol o ddigwydd 15 i 20 diwrnod ar ôl y farwolaeth. 

Bydd yn cael ei ddewis gan Goleg y Cardinaliaid, sef uwch swyddogion yr Eglwys Gatholig, ond ni fydd hynny'n digwydd am 15 diwrnod arall. 

Ar hyn o bryd, mae 252 o gardinaliaid, ac mae 135 ohonyn nhw yn gymwys i bleidleisio dros y Pab newydd.

Does dim hawl gan y rhai sydd dros 80 oed i gymryd rhan yn y bleidlais, ond mae modd iddyn nhw ymuno â'r drafodaeth i ddewis y Pab nesaf.  

Fe fyddan nhw’n cael eu cloi mewn ystafell yng Nghapel Sistine i drafod yn gyfrinachol gyda’r papurau pleidleisio’n cael eu llosgi. 

Pan fydd mwg gwyn yn codi o’r simnai dyna pryd mae’r byd yn gwybod fod Pab newydd wedi ei ethol.

Mae'n rhaid aildrefnu gêm Chwe Gwlad y Menywod rhwng Cymru a’r Eidal oherwydd angladd y Pab Ffransis ddydd Sadwrn.

Roedd y ddau dîm rygbi i fod i wynebu’i gilydd yn Parma, Yr Eidal ar yr un diwrnod. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.