'Diogelwch gwesteion o'r pwys mwyaf i ni' medd perchennog safle gwersylla lle bu farw merch un oed
Mae perchennog safle gwersylla yng Ngwynedd lle bu farw merch flwydd oed wedi dweud bod "diogelwch a lles ein gwesteion o’r pwys mwyaf i ni".
Cafodd yr heddlu eu galw am 10.20 fore Llun i Fryn Gloch ym Metws Garmon yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng cerbyd a merch un oed.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad, gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr, ac fe gafodd y ferch ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r ferch fach yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Mark Roberts, rheolwr gyfarwyddwr Roberts Group sy'n rhedeg safle gwersylla Bryn Gloch:
"Rydym wedi ein tristáu’n fawr gan y digwyddiad trasig ar faes Carafanau a Gwersylla Bryn Gloch ar 28 Ebrill 2025.
"Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’r teulu, a phawb y mae'r digwyddiad dinistriol hwn wedi effeithio arnyn nhw.
"Mae diogelwch a lles ein gwesteion o’r pwys mwyaf i ni, a byddwn yn cydweithredu'n llawn â’r awdurdodau sy’n ymwneud â’r ymchwiliad hwn."