Bron i 40% o alwadau i dîm achub yn Eryri o un mynydd yn unig
Mae bron i 40% o holl alwadau yn gofyn am gymorth tîm achub mynydd yn Eryri wedi dod o lethrau un mynydd yn unig eleni.
Yn ôl Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, fe gafodd eu gwirfoddolwyr eu galw i gynnig cymorth chwe gwaith dros y Pasg - gan wneud cyfanswm o 49 ymgyrch achub hyd yma eleni yn unig.
Ac o'r rhain, roedd 38% o'r ymgyrchoedd achub ar lethrau mynydd Tryfan yn unig.
Fore dydd Sul diwethaf, fe dderbyniodd y tîm alwad am gymorth wedi i fachgen 10 oed ddisgyn 10 metr ar Tryfan gan anafu ei goes a'i glun. Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei alw i godi'r bachgen a'i dad oddi ar y mynydd a'i hedfan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Yn ddiweddarach ar yr un diwrnod fe wnaeth cerddwr lithro tra'n cerdded ar lethrau Tryfan gan anafu ei ffêr.
Cafodd yntau ei gludo hefyd gan yr hofrennydd i Ysbyty Gwynedd am driniaeth.
Ar 16 Ebrill, roedd dau gerddwr a'u ci yn sownd ar fynydd Tryfan wedi i'r tywydd yno waethygu.
Llwyddodd un i ddringo i lawr o'r mynydd a galw am gymorth. Aeth chwech o wirfoddolwyr y tîm achub i fyny i gynnig cymorth, ac fe fu'n rhaid iddyn nhw ddringo drwy sawl rhaeadr er mwyn eu cyrraedd yn y pen draw.
Dridiau'n ddiweddarach, bu'n rhaid achub dau gerddwr arall oedd ar goll ar Tryfan gyda'u dau gi. Bu'n rhaid cludo'r ddau gi - dachsund a pug - mewn bag cefn i lawr y mynydd.
Llun: Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen