Newyddion S4C

Porthmadog: Gollwng achos cyfreithiol yn erbyn postmon lleol

Llys Caernarfon

Mae achos cyfreithiol yn erbyn postmon o Borthmadog wedi ei ollwng.

Roedd Tommie Collins, 61 oed, wedi ei gyhuddo'n wreiddiol o atal pecyn yn fwriadol yn ystod ei drosglwyddo drwy'r post.

Roedd wedi pledio'n ddi-euog i'r cyhuddiad yn ei erbyn mewn gwrandawiad cynharach.

Mae'r cyhuddiad bellach wedi ei ollwng ac mae'r mater wedi dod i ben.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.