Newyddion S4C

Cynghorydd a chantores ymhlith 11 yn pledio'n ddieuog mewn achos twyll honedig

Cynghorydd a chantores ymhlith 11 yn pledio'n ddieuog mewn achos twyll honedig

Mae Cynghorydd Sir o Geredigion ac enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2024 ymhlith 11 o bobl sydd wedi ymddangos yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â thwyll yn gysylltiedig â bridio cŵn. 

Mae'r 11 sy'n cynnwys y Cynghorydd Euros Davies, 59 oed, o Gwmsychbant ger Llanybydder, a'r gantores Sara Davies, 28, o Brengwyn, Llandysul wedi pledio'n ddieuog yn y gwrandawiad brynhawn Mawrth.  

Wedi eu cyhuddo hefyd, mae Rebecca Ellen Bailey, 30, o Langrannog, Cara Michelle Barrett, 38, o Gaerfyrddin, David Benjamin Bethell, 37, o Saron, Nerys Davies, 54, o Aberbanc, Rhydian Davies, 27, o Brengwyn, David Peter Jones, 76, o Landysul, Margaret Ann Jones, 70, o Landysul,  Thomas John Jones, 26, o Brengwyn, a Delyth Mathias, 29 o Gaerdydd.

Fe blediodd y diffinyddion yn ddieuog i bob cyhuddiad yn eu herbyn.

Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â bod â rhan mewn cynnal busnes yn annibynnol ar unrhyw safle masnachu busnes neu enw at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn.

Mae Rebecca Ellen Bailey,  30 oed o Langrannog, Llandysul yn wynebu cyhuddiad o gymryd rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn rhwng 1 Mawrth 2015 a 16 Tachwedd 2023.

Mae hi hefyd yn wynebu cyhuddiad o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall, yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 rhwng 3 Ebrill 2020 a 16 Tachwedd 2023 yn Llandysul yn Sir Ceredigion.

Mae'n wynebu dau gyhuddiad arall - sef o wneud erthygl, sef llythyr at The Kennel Club a oedd yn cynnwys gwybodaeth anghywir mewn perthynas â maint torllwyth a dyddiadau geni cŵn bach i'w cofrestru, gan fwriadu ei defnyddio i gyflawni, neu gynorthwyo i gyflawni twyll.

Digwyddodd y troseddau honedig hyn ar neu o gwmpas 19 Ionawr 2021, ac ar neu o gwmpas 27 Ionawr 2022.

Mae Cara Michelle Barrett, 38 oed, o Ffordd Cynwyl, Caerfyrddin, wedi ei chyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes yn annibynnol at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, rhwng 1 Mawrth 2015 a 17 Chwefror 2022, yn Llandysul yn Sir Ceredigion neu rywle arall yng Nghymru a Lloegr.

Mae David Benjamin Bethell, 37 oed o Saron, Llandysul, wedi ei gyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, rhwng 1 Mawrth 2015 a 17 Chwefror 2022.

Mae Euros Davies, 59 oed, o Gwmsychbant, Llanybydder, Ceredigion, wedi ei gyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, yn groes i Adran 9 o Ddeddf Twyll 2006 rhwng 1 Mawrth 2015 a 17 Chwefror 2022.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall, yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 rhwng 3 Ebrill 2020 a 17 Chwefror 2022.

Mae Nerys Davies, 54 oed, o Aberbanc, Penrhiwllan, Ceredigion, wedi ei chyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, yn groes i Adran 9 o Ddeddf Twyll 2006 rhwng 1 Mawrth 2015 a 16 Tachwedd 2023.

Mae hi hefyd wedi ei chyhuddo o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 rhwng 3 Ebrill 2020 a 16 Tachwedd 2023.

Mae Rhydian Davies, 27 oed, o Brengwyn, Llandysul, Ceredigion, wedi ei gyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, yn groes i Adran 9 o Ddeddf Twyll 2006 rhwng 1 Mawrth 2015 a 17 Chwefror 2022.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 rhwng 3 Ebrill 2020 a 17 Chwefror 2022.

Mae Sara Davies, 28 oed, o Brengwyn, Llandysul, Ceredigion, wedi ei chyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, yn groes i Adran 9 o Ddeddf Twyll 2006 rhwng 1 Mawrth 2015 a 16 Tachwedd 2023.

Mae hi hefyd wedi ei chyhuddo o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 rhwng 3 Ebrill 2020 a 16 Tachwedd 2023.

Image
Rhai o'r diffinyddion
David Benjamin Bethell, Rhydian Davies, Thomas John Jones, Peter Jones, Margaret Ann Jones a Nerys Davies

Mae David Peter Jones, 76 oed o Landysul, Ceredigion, wedi ei gyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, yn groes i Adran 9 o Ddeddf Twyll 2006 rhwng 1 Mawrth 2015 a 16 Tachwedd 2023.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 rhwng 3 Ebrill 2020 a 16 Tachwedd 2023.

Mae Margaret Ann Jones, 70 oed, o Landysul, Ceredigion, wedi ei chyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, yn groes i Adran 9 o Ddeddf Twyll 2006 rhwng 1 Mawrth 2015 a 16 Tachwedd 2023.

Mae hi hefyd wedi ei chyhuddo o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 Rhwng 3 Ebrill 2020 a 16 Tachwedd 2023.

Mae Thomas John Jones, 26 oed o Brengwyn, Llandysul, Ceredigion, wedi ei gyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, yn groes i Adran 9 o Ddeddf Twyll 2006 rhwng 1 Mawrth 2015 a 16 Tachwedd 2023.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 rhwng 3 Ebrill 2020 a 16 Tachwedd 2023.

Mae Delyth Mathias, 29 oed o Gaerdydd, wedi ei chyhuddo o fod â rhan mewn cynnal busnes at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn, yn groes i Adran 9 o Ddeddf Twyll 2006 rhwng 1 Mawrth 2015 a 17 Chwefror 2022.

Mae hi hefyd wedi ei chyhuddo o ymrwymo i ddefnyddio neu reoli eiddo troseddol gan neu ar ran person arall yn groes i adran 328 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 rhwng 3 Ebrill 2020 a 17 Chwefror 2022.

Cafodd yr 11 eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod a bydd y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 30 Mai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.