Newyddion S4C

Cwis Bob Dydd yn dychwelyd am dymor newydd

Cwis bob dydd

Bydd ap Cwis Bob Dydd yn dychwelyd am dymor newydd ddydd Sadwrn.

Mae tymor newydd y cwis yn dychwelyd ar 3 Mai ac yn parhau tan ddiwedd y mis.

Er bydd y tymor yn dod i ben ymhen mis, fe fydd tymor arall yn dechrau ar 5 Gorffennaf ac yn parhau am ddeufis.

Mae'r ap sydd wedi ei greu gan S4C wedi bodoli ers 2022, ac yn syml mae'n rhaid ateb 10 cwestiwn o fewn yr amser byrraf posib.

Bydd yr unigolyn sydd wedi ennill y mwyaf o bwyntiau yn ennill y tymor ac yn cael gwobr - y wobr ddiwethaf oedd gwyliau byr VIP. 

Anne Jones o Lanarth, Ceredigion yw enillydd mwyaf diweddar Cwis Bob Dydd.

'Ymgysylltu â'r iaith'

Michaela Carrington, o Grughywel ym Mhowys, enillodd brif wobr Cwis Bob Dydd yn 2023, sef defnydd o gar am flwyddyn. 

Llynedd enillodd Llŷr Evans o Gydweli wyliau i bedwar mewn chalet yng nghanol mynyddoedd Ffrainc.

Mae miloedd o bobl wedi cymryd rhan yn y cwis ar hyd y tair blynedd ddiwethaf, sydd yn destun balchder i Bennaeth Di-Sgript S4C, Iwan England.

“Dwi’n falch bod dros 25,000 o chwaraewyr cofrestredig erbyn hyn a dros ddwy fil o grwpiau," meddai.

"Mae’r ap wedi diddanu miloedd ond hefyd wedi helpu siaradwyr Cymraeg newydd i ymgysylltu â'r iaith mewn ffordd hwyliog a hygyrch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.