Newyddion S4C

Mam Ellie Simmonds yn 'dal i fyw' gyda'r euogrwydd o'i mabwysiadu

Ellie Simmonds

Mae mam y gyn nofwraig baralympaidd Ellie Simmonds yn dweud ei bod yn “dal i fyw” gyda’r euogrwydd o roi ei merch i'w mabwysiadau pan oedd hi’n fabi.

Fe gafodd Ellie sydd yn 30 oed ei geni gydag achondroplasia, sef cyflwr sydd yn effeithio ar allu'r esgyrn i dyfu.

Ar ôl darganfod bod ganddi anabledd fe benderfynodd ei mam ei rhoi i'w mabwysiadu.

Fe wnaeth Ellie a’i mam gyfarfod am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ôl.

Ond dyw Ellie ddim wedi gofyn iddi yn y gorffennol y rhesymau pam y penderfynodd nad oedd hi am edrych ar ei hol.

Yn ystod y rhaglen ddogfen ar ITV, 'Ellie Simmonds: Should I Have Children' mae Ellie yn holi ei mam am y penderfyniad.

“Y cyfan o’n i yn gallu gweld oedd yr anabledd. Fe allwch chi wneud esgusodion ond fe wnes i stryglo. O’n i yn galaru am y plentyn y dyle ti di bod. Mi oedd o’r penderfyniad mwyaf mawr yn fy mywyd, i roi dy blentyn biolegol i ffwrdd… mi oedd o’n anferth,” meddai ei mam sydd yn dewis bod yn anhysbys yn ystod y rhaglen. 

“Nes i dy roi di iddyn nhw ac mae hynny yn rhywbeth nad wyt ti byth yn gallu dod drosto fo. Mae’r euogrwydd yn ofnadwy. Ti'n byw efo hynny trwy’r amser.”

Yn ôl ei mam, roedd gwneud y dewis ar ôl genedigaeth yn anodd.

“Mewn ffordd ti’n gwneud penderfyniad yn ystod yr amser anghywir o dy fywyd achos ti newydd eni. Mae dy hormonau di ymhob man. Yn gorfforol ti ddim yn iawn, yn feddyliol ti ddim yn iawn ac mae’n gyfnod anodd i wneud penderfyniad am unrhywbeth”.

Fe gafodd ei mam wybod gan genetegydd bod gan ei merch achondroplasia pan oedd hi’n wythnos oed. 

“Roedd hi’n swta iawn ac fe ddywedodd hi, ‘Dyna sut mae dy fabi di yn mynd i edrych’. Dwi’n cofio dod yn ôl a meddwl allai ddim ymdopi â hyn. Fe allai’r mater fod wedi cael ei esbonio mewn ffordd neisiach achos dyma oedd fy mywyd i. Dyna oedd dy fywyd di.”

Mae’n dweud iddi feddwl am Ellie “bob dydd” a’i bod hi ei chefnogwr mwyaf.

Yn ystod ei gyrfa fel nofwraig fe enillodd Ellie, a symudodd yn blentyn i Abertawe, bum medal aur yn y Gemau Paralympaidd.

“Pan nes i weld ti yn y Gemau Paralympaidd Beijing nes i feddwl, ‘Ellie fi yw honna’. Dwi’r cefnogwr mwyaf ohona ti’”.

Yn ystod y rhaglen mae Ellie y siarad gyda chyplau sydd â phlant ag anableddau ac yn ystyried yr opsiynau iddi hi, pe byddai yn dewis cael babi.

Mae’n dweud wrth ei mam yn y rhaglen nad oes yna fai ar neb a’i bod hi’n “anhygoel”.

“Mae’n ymddangos ei bod hi wedi dal ymlaen i’r euogrwydd yna am amser hir. Mae hynny yn drist yn tydi. Trist iawn,” meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.