Newyddion S4C

Elain Roberts yn cipio'r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd

Elain Roberts yn cipio'r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd

Elain Roberts sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.

Elain yw’r cyntaf erioed i ennill Medal Ddrama (yn 2023) a Chadair Eisteddfod yr Urdd. Hefyd am y tro cyntaf yn hanes cystadleuaeth y gadair, mae’r wobr wedi’i hennill gan ferch am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Bro Teifi, aeth Elain i'r Brifysgol yn Mryste i astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth ac ar ôl graddio, symudodd gartref i weithio. Ym mis Chwefror eleni, symudodd Elain i Lundain i ddechrau ar swydd newydd gyda Phlaid Cymru yn San Steffan.

Enillodd Elain y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 a daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn 2022. Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth ar ôl mynychu dosbarthiadau cynganeddu yn Nhafarn y Vale, Felin-fach y llynedd.

Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd llunio cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun: ‘Tywod’. 

Dywedodd y beirniaid Tudur Hallam a Grug Muse fod Elain yn llwyr deilwng o Gadair yr Eisteddfod eleni am “gerdd sy’n gafael yn y darllenydd o’r caniad cyntaf, ac yn llwyddo i ddal ei gafael tan y pennill olaf un.”

“Rydym yn nwylo bardd gofalus. Stori gyfarwydd a geir yma, stori siaradwr Cymraeg ifanc yn gadael cefn gwlad am fywyd y ddinas, a’r traeth yn gyfrwng i archwilio’r teimladau a’r profiadau sydd ynghlwm â hynny. Llwyddodd y bardd i roi trefn ar emosiynau cymysg iawn, gan rannu â ni brofiad y Cymro a’r Gymraes a all fod yn ddedwydd ei byd mewn dinas Saesneg.”

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Tesni Peers o Wrecsam, a Celt John o Aberystwyth yn drydydd.

Mae’r gadair wedi’i dylunio a chreu gan Angharad Pearce Jones o ardal Brynaman a’i rhoi gan Gapel Soar-Maesyrhaf, Castell-nedd. 

Meddai Angharad am y profiad o greu cadair Eisteddfod yr Urdd Dur: “Braint o’r mwyaf ydy gwireddu breuddwyd wrth greu’r gadair hon eleni. 

“Dwi’n ffodus i gael y darn olaf o’r dur Cymreig o weithfeydd Tata ar gyfer y gadair, a ro’n i’n benderfynol i greu cadair oedd yn teimlo’n bositif - oedd yn ddathliad yn hytrach na symbol trist am yr hyn a fu.” 

Y ddau feirniaid oedd Tudur Hallam a Grug Muse, a noddir y seremoni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.