Rhagor o amser i holi gyrrwr car anafodd 'o leiaf' 79 yn Lerpwl
Mae'r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi gyrrwr car anafodd 'o leiaf' 79 unigolyn ar ddiwedd gorymdaith i ddathlu llwyddiant clwb pêl droed Lerpwl ddydd Llun.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Heddlu Glannau Mersi: “Gallwn gadarnhau bod saith o bobl yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog yn dilyn y digwyddiad ar Stryd y Dŵr ar ddydd Llun Mai 26.
“Fel rhan o’r ymchwiliad parhaus, rydym hefyd wedi gallu adnabod mwy o bobl a gafodd eu hanafu, gyda chyfanswm o 79 yr ydym yn siarad â nhw nawr.
“Mae dyn 53 oed o West Derby, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, gyrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad cyffuriau, yn parhau yn nalfa’r heddlu.
“Mae’r tîm ymchwilio wedi cael rhagor o amser heddiw i barhau i’w holi yn nalfa’r heddlu, a fydd yn parhau yn ei le tan yfory.”
Fe wnaeth hyd at 1.5 miliwn o bobl ymgynnull ar strydoedd Lerpwl i ddathlu coroni tîm pêl-droed Lerpwl yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn dydd Llun.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod y car a wnaeth daro degau o bobl wedi gallu dilyn ambiwlans a oedd yn mynd at berson oedd wedi dioddef trawiad ar y galon.