Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd

Enillydd Medal Bobi Jones ac ennillydd medal y dysgwyr

Mae enillwyr Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones wedi eu cyhoeddi ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher.

Dyfarnwyd Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Lloyd Wolfe a Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Joe Morgan. Mae'r ddau o Gaerdydd.

Mae Lloyd Wolfe yn astudio Lefel A mewn Cerddoriaeth, llenyddiaeth Saesneg, Drama a Chymraeg Ail Iaith yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Dywedodd: “Yn fy amser hamdden dwi’n mwynhau cyfansoddi cerddoriaeth a mynychu gigs Cymraeg fel Tafwyl a Maes B. 

"Dwi’n teimlo bod yr iaith Gymraeg wedi cael effaith mor enfawr ar fy mywyd i gan fy mod i’n ei defnyddio hi mewn bob agwedd o fywyd. 

"Dwi’n defnyddio Cymraeg hefo fy ffrindiau ar draws Cymru ac yn enwedig hefo fy ngwaith fel llysgennad dros y Coleg Cymraeg eleni - mae’n gyfle mawr gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae Joe Morgan yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio newyddiaduriaeth gyda chyfryngau a chyfathrebu.

Dywedodd: “Yn ystod fy amser yn y Brifysgol, dwi wedi ymuno â’r Gymdeithas Gymraeg i gael ymarfer mewn lle cymdeithasol a phrofi mwy o'r diwylliant.

“Dwi’n caru gwneud fideos ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i’n gwneud hyn trwy roi cynnwys byr ar gyfryngau cymdeithasol fel TikTok ac Instagram a fideos hir ar YouTube. Dwi wedi datblygu fy nghariad am hyn yn ystod fy amser fel llysgennad y Coleg Cymraeg a dwi’n gyffrous i barhau gyda fy ngwaith gyda nhw eleni.

“Yn gyffredinol, mae fy nhaith i astudio’r iaith wedi fy ngalluogi i werthfawrogi ac i garu’r iaith a’i diwylliant, a dwi mor ddiolchgar am bob drws mae’r iaith wedi ei agor i fi.”

Nod Cystadleuaeth Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones yw gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.

Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol. Fe gafodd y rownd derfynol, yn llawn tasgau amrywiol, ei chynnal ar y Maes heddiw. 

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi cael ar eu bywyd, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. 

Y beirniad ar gyfer y ddwy wobr eleni yw Miriam Elin Jones ac Elin Meek. Rhoddir Medal Bobi Jones gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe a Medal y Dysgwyr gan Tŷ'r Gwrhyd - Canolfan Gymraeg Cwm Tawe.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.