Eisteddfod yr Urdd i ehangu i ŵyl saith diwrnod o 2026
Mae’r Urdd wedi cyhoeddi bwriad i ehangu’r Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026, a hynny "mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu" medd y mudiad.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl sy’n esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau. Mae mwy o gofrestriadau i gystadlu nag erioed o’r blaen a galw am gystadlaethau llwyfan ychwanegol, ac rydym mor falch o weld yr effaith gadarnhaol mae’r ŵyl yn ei gael drwy gynyddu’r cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth.
“Felly i sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, byddwn yn ehangu’r Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod.”
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cadeirydd Bwrdd Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae cyhoeddiad heddiw yn brawf o lwyddiant ac apêl Eisteddfod yr Urdd fel gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop. Ein nod yw parhau i gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i aelodau’r Urdd, ac adlewyrchu Cymru a’i hamrywiaeth drwy ymestyn allan i gynulleidfaoedd newydd.”
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, Manon Wyn Williams: “Mae’r cynnydd blynyddol o ran y nifer sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn galonogol iawn ac yn golygu bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd amhrisiadwy drwy’r mudiad.
“Mae’r diolch am hynny i waith diflino hyfforddwyr, athrawon, gwirfoddolwyr a staff gweithgar yr Urdd ledled Cymru. O ganlyniad, mae ymestyn hyd yr Eisteddfod i saith niwrnod yn ddatblygiad hanfodol a chyffrous."