
'Cofeb berffaith': Dathlu mis Balchder gyda darn o gelf ar hen safle glo
Mae aelodau o gymuned LHDTC+ Cwm Tawe wedi creu darn o gelf ar hen safle glo yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae'r gwaith celf ar lawr Amgueddfa Glofa Cefn Coed yn portreadu glöwr gyda het a lamp ar ei ben gyda golau lliw baner Balchder.
Yr artist Nathan Wyburn o Lynebwy oedd yn gyfrifol am arwain y cynllun.
Y bwriad yw dathlu mis Balchder yn ogystal â'r cysylltiad rhwng y glowyr yng nghymoedd Cymru a'r gymuned LHDTC+.
Mae eleni yn nodi 40 mlynedd ers i'r glowyr gerdded gyda'r gymuned LHDTC+ yng ngorymdaith Balchder yn Llundain.
Yn ystod y streic rhwng 1984 a 1985 daeth grŵp LHDTC+ at ei gilydd i godi arian i deuluoedd gweithwyr y pyllau glo.
Nawr, mae pobl o’r ddwy gymuned wedi dod at ei gilydd i greu darn enfawr o gelf.
Defnyddiodd yr artist bridd, cerrig a glo er mwyn creu’r murlun.

Daeth aelodau o’r gymuned LHDTC+ at ei gilydd i helpu Nathan i greu’r murlun hefyd.
Un o'r rheiny oedd Emyr Wyn Williams.
"I fod yn rhan o hyn i hyd, i goffau yr hyn wnaeth y gymuned lofaol a’r gymuned LHDTC+ i’w gilydd, fi jyst mor falch i fod ma’," meddai.
"Ma’ beth wnaethon nhw yr holl flynydde yn ôl jyst wedi helpu pobl fel fi i fod yn ni’n hunain.
"Roedd fy ddau nhad-cu yn lowyr a weithion nhw flynydde mawr yn y gwaith glo.
"Ni’n rhamantu’n tamaid bach am y gwaith glo a sut oedd pethe blynydde yn ôl, ond y realiti yw o’dd e’n waith caled, dangerys ofnadwy."
Mae Emyr yn dweud ei fod yn teimlo yn falch o greu'r murlun "perffaith".
"Wrth weld e fi’n teimlo’n emosiynol. Mae’n gofeb hyfryd i gofio’r glowyr yn gyntaf wrth gwrs a beth aethon nhw drwyddo.
"Ond hefyd am beth wnaeth y gymuned LHDTC+ ar y pryd a jyst i goffau 40 mlynedd o’r ddou gymuned yn gweithio ‘da’i gilydd. Ma' fe’n berffaith."
Mae'r rhaglen O Lo i Liw ar gael i'w gwylio ar S4C Clic, YouTube a BBC iPlayer.