Newyddion S4C

Ffrae yn y Senedd dros ddynodi rheilffordd Caergrawnt-Rhydychen yn brosiect 'Cymru a Lloegr'

Rheilffordd

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan ac arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi ffraeo yn y Senedd ar bwnc dynodi rheilffordd o Gaergrawnt i Rydychen yn brosiect 'Cymru a Lloegr'.

Ni fydd rhan o’r rheilffordd newydd £6.6bn East West Rail yng Nghymru ond ni fydd Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod y prosiect yn “HS2 yr ail” gan gyfeirio at y rheilffordd o Lundain i Birmingham a gafodd ei dynodi yn brosiect 'Cymru a Lloegr'.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Eluned Morgan wedi “caniatáu i Gymru gael bargen wael unwaith eto” gan Lywodraeth y DU.

Ymatebodd Eluned Morgan nad oedd Plaid Cymru yn deall sut oedd datganoli yn gweithio, ac nad oedd y seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli i Gymru.

“Ydyn ni'n cael ein cyfran deg? Nag ydyn,” meddai hi.

“Ond rydyn ni'n cyflwyno'r achos yn bendant ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gydnabyddiaeth o hynny drwy'r Adolygiad Gwariant. 

“Yn wahanol i'r Torïaid, mae cydnabyddiaeth bod tanfuddsoddi enfawr wedi bod o dan y Ceidwadwyr. 

“Mae’r rheilffordd Rhydychen i Gaergrawnt yn rhan o'r seilwaith rheilffyrdd ehangach hwnnw. 

“Roedd prosiect HS2 yn eithriad i hynny, a dyna pam rydyn ni'n cyflwyno'r achos mewn ffordd ar wahân.”

Fe ymatebodd Rhun ap Iorwerth drwy ddweud bod y Prif Weinidog “yn y pen draw” wedi dweud bod y modd y cafodd HS2 ei ariannu yn annheg “ond rydych chi’n amddiffyn rheilffordd Caergrawnt i Rydychen”.

“Gadewch i ni fod yn glir iawn, iawn am beth sydd gyda ni, sef sefyllfa lle mae Llafur yn derbyn beth bynnag y mae Keir Starmer yn dweud y dylai Cymru fod yn ddiolchgar amdano,” meddai.

‘Gwarthus’

Dechreuodd y ffrae ddydd Llun wedi i Aelod Seneddol Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, David Chadwick, ofyn i Adran Drafnidiaeth San Steffan “a fydd East West Rail yn cael ei dynodi'n brosiect Cymru a Lloegr?”

Wrth ymateb dywedodd Is-ysgrifennydd Seneddol y Wladwriaeth dros Drafnidiaeth, Simon Lightwood, ei bod yn rhan o’r biblinell gwelliannau rhwydwaith rheilffyrdd (RNEP) “sy'n cwmpasu cyllid ar gyfer prosiectau yng Nghymru a Lloegr”.

“Gellir dosbarthu portffolio RNEP i unrhyw gynllun ledled Cymru a Lloegr,” meddai.

 Dywedodd David Chadwick AS , sy’n Llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, ddydd Llun bod y penderfyniad ar gyfer East West Rail yn “warthus”.

“Dyma HS2 unwaith eto,” meddai.

“Mae Cymru ar ei cholled o gannoedd o filiynau mewn cyllid a allai drawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd ein hunain.

“Mae Rheilffordd Dwyrain-Gorllewin rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Ni fydd unrhyw gentimetr o drac yn cael ei osod yng Nghymru. 

“Ac eto mae Llafur yn disgwyl i bobl ledled Cymru gredu’r syniad hurt y bydd y prosiect hwn o fudd iddyn nhw.

“Mae’n warth, ac mae’n dangos nad oes unrhyw newid ystyrlon wedi bod ers i Gymru gael ei thrin ers i Lafur ddod i rym o’i gymharu â’r Ceidwadwyr.”

Wrth ymateb ddydd Llun, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Nid yw hyn yn newydd. Mae'r system a ddefnyddir i dalu am welliannau rheilffyrdd yn rhoi Cymru a'r Gororau o fewn rhwydwaith ehangach sydd wedi bod yn anfantais i ni yn hanesyddol. Mae llywodraethau blaenorol wedi methu â newid hynny, ond mae Llywodraeth bresennol y DU wedi cydnabod ei bod yn fargen wael i Gymru. 

"Gallai cyn-weinidogion fod wedi rhoi setliad cyllido teg, ond methwyd gwneud hynny. Yn hytrach, fe wnaethant gefnogi HS2 heb gyllid teg i Gymru.

"Mewn cyferbyniad llwyr, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi cyfaddef bod rhwydwaith Cymru a'r Gororau wedi cael ei danariannu yn y gorffennol. Mae gennym brosiect uchelgeisiol o welliannau yr ydym wedi cytuno arnynt." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.