'Barod am ryfel': Y DU i adeiladu hyd at 12 o longau tanfor newydd
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ddydd Llun y bydd y DU yn adeiladu hyd at 12 o longau tanfor newydd ar ôl i weinidogion gynnal adolygiad mawr o'i gallu milwrol.
Dywedodd Syr Keir Stramer y byddai y buddsoddiad yn sicrhau bod y DU "yn barod am ryfel".
“Pan fyddwn yn cael ein bygwth yn uniongyrchol gan wladwriaethau â lluoedd milwrol datblygedig, y ffordd fwyaf effeithiol o’u hatal yw bod yn barod,"eddai.
"Rhaid i ni ddangos iddyn nhw ein bod ni’n barod i sicrhau heddwch drwy gryfder.”
Fe wnaeth gyhoeddi y bydd hyd at 12 o longau tanfor niwclear yn disodli fflyd bresennol y DU o ddiwedd y 2030au ymlaen.
Dywedodd y byddai'r llongau newydd yn cadw "Prydain a Nato yn ddiogel am ddegawdau".
Fe wnaeth hefyd gadarnhau y bydd y DU yn gwario £15 biliwn ar ei rhaglen arfau niwclear.
Fe gafodd yr adolygiad o allu milwrol y DU ei harwain gan gyn ysgrifennydd amddiffyn Llafur, yr Arglwydd Robertson.
Mae'r adolygiad wedi gwneud 61 o argymhellion ac mae disgwyl i'r Llywodraeth yn San Steffan eu derbyn yn llawn.
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, bydd adeiladu’r llongau tanfor newydd yn cefnogi 30,000 o swyddi yn ystod y 2030au. Maent hefyd yn dweud y bydd 30,000 o brentisiaethau a 14,000 o swyddi i raddedigion yn cael eu creu dros y 10 mlynedd nesaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey, bod yn rhaid "gweithredu'n bendant i wynebu bygythiad gan Rwsia".
"Mae ein llongau tanfor rhagorol yn patrolio 24/7 i’n cadw ni a’n cynghreiriaid yn ddiogel, ond rydyn ni’n gwybod bod bygythiadau ar gynnydd ac mae'n rhaid i ni weithredu’n bendant i wynebu bygythiad gan Rwsia," meddai.
"Gyda llongau tanfor newydd o’r radd flaenaf yn patrolio dyfroedd rhyngwladol a’n rhaglen arfau niwclear ein hunain ar lannau Prydain, rydym yn gwneud Prydain yn ddiogel gartref ac yn gryf dramor, wrth gyflawni ein Cynllun ar gyfer Newid gyda 30,000 o swyddi medrus iawn ledled y wlad."