Newyddion S4C

Wyth sydd yn cefnogi gwystlon Israelaidd wedi eu hanafu mewn ymosodiad

Heddlu'n ymchwilio i ymosodiad yn Boulder

Mae wyth o bobl wedi eu hanafu ar ôl i ddyfeisiau ffrwydrol gael eu taflu atynt tu allan i ganolfan siopa yn Boulder yn Colorado, America.

Roedd y grŵp yn cynnal gorymdaith i gefnogi gwystlon Israelaidd yn Gaza brynhawn dydd Sul.  

Mae’r dyn 45 oed, Mohamed Sabry Soliman, sydd yn cael ei amau o fod yn gyfrifol yn ddinesydd o’r Aifft.

Mae’r FBI yn amau mai gweithred derfysgol oedd hyn ond yn credu fod y dyn wedi gweithredu ar ben ei hun.

Yn ôl yr awdurdodau fe weiddodd "Palestina rhydd" yn ystod yr ymosodiad. 

Pedwar o fenywod a phedwar o ddynion yw’r rhai sydd wedi eu hanafu.

Maent yn amrywio o ran oed rhwng 52-88. Mae o leiaf un mewn cyflwr difrifol.

Yn ôl y darlledwr Americanaidd CBS, mae un o’r dioddefwyr yn berson sydd wedi goroesi'r Holocost.

Roedd yr orymdaith yn rhywbeth "wythnosol, heddychlon" meddai'r FBI.

Mae’r heddlu wedi disgrifio’r ddyfais fel "taflwr tân cartref" (makeshift flamethrower).

Dyma’r ail ymosodiad o’i fath yn America.

Mae’r awdurdodau wedi dweud y byddan nhw yn rhoi mwy o bwyslais ar ddiogelwch digwyddiadau Iddewig sydd wedi eu trefnu. 

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.