Newyddion S4C

Ysbyty Gwynedd: Galw am welliannau 'ar frys' i uned mamolaeth

Dwylo mam a babi yn yr ysbyty

Mae angen gweithredu “ar frys” er mwyn mynd i’r afael â “phryderon am ddiogelwch cleifion” ar uned mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd, medd adroddiad.

Yn ôl adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ddydd Iau, mae ‘na bryderon ynglŷn â chyfathrebu ymhlith staff allai effeithio ar eu gallu i wneud penderfyniadau diogel am fenywod, yn enwedig y rheini sydd ar fin rhoi genedigaeth.

Nododd yr adroddiad y gallai problemau cyfathrebu hefyd godi yn sgil mynediad “anghyson” at wasanaethau cyfieithu yno.  

Daw’r adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd a thri diwrnod o hyd ar Ward Llifon, sy’n arbenigo mewn gofal cynenedigol ac ôl-enedigol, ym mis Chwefror.

Mae 'na bryderon hefyd am “gydymffurfiaeth isel” o ran hyfforddiant gorfodol ymysg y staff obstetreg – sef y meddygon, bydwragedd a'r nyrsys sy'n gofalu am fenywod yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth, ac ar ôl i'r baban gael ei eni.

Ond dywedodd yr arolygwyr hefyd bod menywod a'u teuluoedd yn cael eu trin â “charedigrwydd a pharch,” a bod gofal yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd, glân, pwyllog a chroesawgar.

Cafodd staff eu canmol hefyd am roi cymorth unigol a oedd yn canolbwyntio ar y claf, gan hefyd sicrhau bod menywod yn cael meddyginiaethau lleddfu poen mewn modd amserol.

'Angen gwella ar unwaith'

Er bod yr arolygwyr wedi nodi meysydd o “arfer da,” mae’r adroddiad yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithredu er lles a diogelwch cleifion. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Mae'r arolygiad hwn yn tynnu sylw at ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff wrth ddarparu gofal urddasol sy'n canolbwyntio ar y claf. 

“Mae hefyd yn nodi meysydd y mae angen eu gwella ar unwaith ac yn barhaus. 

“Rydym yn annog y bwrdd iechyd i weithredu'n ddi-oed, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd i sicrhau cynnydd.”

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi pryderon yn ymwneud â:

  • Newidiadau diweddar i arweinyddiaeth bydwreigiaeth
  • Gallu staff i godi pryderon
  • Polisïau “a oedd wedi dyddio.” 

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru hefyd yn dweud y dylai’r Bwrdd Iechyd barhau i ganolbwyntio ar recriwtio a chadw “er mwyn mynd i'r afael â bylchau staffio a chefnogi gofal diogel o ansawdd uchel.” 

Mewn ymateb dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn “croesawu’r adroddiad” a’i fod yn “gyfle da i ni wneud gwelliannau pellach".

“Cafodd cynllun gwella ei roi ar waith yn brydlon mewn ymateb i'w canfyddiadau ac rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gwblhau pob un o'r camau gweithredu sy'n weddill erbyn diwedd mis Gorffennaf," meddai.

"Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu'r safonau gofal uchaf i ferched a theuluoedd sy'n defnyddio ein gwasanaethau mamolaeth ar draws Gogledd Cymru."

Mae hefyd yn dweud bod yr adborth positif a gafwyd gan fenywod ar yr uned fel rhan o’r arolygiad  yn “hynod galonogol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.