Newyddion S4C

Carchar i gyn-athro yng ngogledd Cymru ar ôl troseddau rhyw yn erbyn 26 o blant

Carchar i gyn-athro yng ngogledd Cymru ar ôl troseddau rhyw yn erbyn 26 o blant

Mae cyn-athro yng ngogledd Cymru wedi ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl pledio'n euog i 29 cyhuddiad o droseddau rhyw'n ymwneud â phlant. 

Roedd Simon Clark, sy'n 46 ac o Ellesmere Port, ac wedi bod yn athro yn Sir y Fflint, wedi cyfaddef i annog plentyn i gymeryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, a chreu delweddau anweddus o blant.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Simon Berkson yn Llys y Goron Caer wrth y diffynnydd ei fod yn cynrychioli “risg sylweddol” i blant.

Dywedodd yr Ustus Berkson: “Wrth gwrs, hunllef waethaf pob rhiant yw bod y math yma o beth yn digwydd i’w plant.

“Mae llawer o’r troseddau’n cynnwys cyfathrebu rhywiol, rhai’n cynnwys annog plant i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol. Roedd hwn yn ymddygiad troseddol wedi’i gynllunio’n soffistigedig.

“Mae’n amlwg bod gennych ddiddordeb rhywiol mewn cam-drin plant ac rydych chi’n cael boddhad rhywiol ohono.”

Roedd Simon Clark, a oedd yn gweithio mewn ysgol cyn cael ei arestio ym mis Awst 2023, wedi ffugio bod yn blentyn yn ei arddegau ar Snapchat.

Clywodd ei achos llys bod rhiant pryderus wedi cysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru i ddweud fod eu merch yn ei harddegau wedi bod yn derbyn negeseuon gan ddyn anhysbys yn gofyn am ddelweddau anweddus.

Fe blediodd yn euog ar 28 Mawrth i’r cyhuddiadau, i gyd yn ymwneud â 26 o ddioddefwyr o dan 16 oed, a ddigwyddodd dros gyfnod o saith mlynedd.

Roeddynt yn cynnwys tri chyfrif o gymell plentyn dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, 21 achos o gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn o dan 16 oed, tri chyfrif o wneud ffotograffau anweddus o blant, a dau gyfrif arall o gymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

Clywodd y llys ei fod wedi gwneud 26 o ddelweddau anweddus a gafodd eu dosbarthu fel Categori A - y mwyaf difrifol - ynghyd â 29 yng Nghategori B ac 81 yng Nghategori C.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.