Newyddion S4C

Rolls-Royce i ddarparu adweithyddion niwclear bychain

Wylfa

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai Rolls-Royce SMR fydd yn gyfrifol am ddarparu adweithyddion niwclear bychain (SMR) cyntaf Ewrop.

Mae’r cwmni wedi cael ei ddewis i bartneru gyda Great British Energy – Nuclear, (Great British Nuclear gynt), er mwyn creu’r adweithyddion yn dilyn proses dewis a dethol wnaeth bara dwy flynedd. 

Mae Wylfa ar Ynys Môn yn un o'r ceffylau blaen i fod yn gartref i un o'r adweithyddion, ar ôl i sefydliad Great British Nuclear brynu'r safle.

Dywedodd Llywodraeth y DU wrth Newyddion S4C y bydd union leoliadau'r adweithyddion yn cael eu cadarnhau yn hwyrach ymlaen eleni.

Mae gan y Wylfa "nodweddion cadarnhaol ar gyfer bod yn gartref i safle niwclear newydd," medden nhw.

Yn y gorffennol mae cwmni Rolls-Royce SMR wedi dweud ei bod yn ystyried safle’r Wylfa fel un o “bedwar parsel tir posib” i fod yn gartref i un o’r adweithyddion.  

Y bwriad gan Great British Energy- Nuclear yw ceisio dewis safle yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn. Maent hefyd yn gobeithio cysylltu prosiectau i’r grid erbyn canol y 2030au. 

Mae adweithyddion bychain yn cynhyrchu llai o ynni niwclear o gymharu ag atomfeydd llawn fel Wylfa neu Hinkley C, ond y gobaith meddai'r llywodraeth yw y bydd "fflyd" ohonyn nhw yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd AS Ynys Môn Llinos Medi yn sgil y cyhoeddiad bod yn "rhaid i Lywodraeth y DU egluro ar frys ei hymrwymiad i brosiect newydd ar safle Wylfa."

Fe gafodd Bwrddcrwn Dyfodol Wylfa ei gynnal yr wythnos diwethaf, gyda Llinos Medi, Cymdeithas y Diwydiant Niwclear a rhanddeiliad yn y sector niwclear yn bresennol. 

Dywedodd Llinos Medi AS: "Yr wythnos diwethaf roeddwn i’n falch o gynnal trafodaeth drawsbleidiol gydag undebau llafur, academyddion, Cyngor Sir Ynys Môn, busnesau lleol ac arbenigwyr yn y diwydiant ar ddyfodol ynni niwclear yn Wylfa, ochr yn ochr â Chymdeithas y Diwydiant Niwclear (NIA). 

"Mae’r grŵp hwn, sy’n cynrychioli’r gymuned leol a’r diwydiant, yn unedig yn ein galwad i’r DU ddatblygu prosiect niwclear newydd yn Wylfa. Byddai hyn yn drawsnewidiol i swyddi a bywoliaethau ar yr ynys a gogledd Cymru, yn ogystal â darparu diogelwch ynni am ddegawdau i’r Deyrnas Unedig gyfan."

Dywedodd Cadeirydd Grŵp y Senedd ar niwclear, Vaughan Gething, ym mis Ebrill eleni ei fod yn “obeithiol ac yn bositif” y gallai un o’r safleoedd ar gyfer adweithyddion niwclear bychain fod yng Nghymru.

Mae eleni’n nodi 10 mlynedd ers i safle Wylfa yng ngogledd Môn stopio cynhyrchu ynni drwy niwclear.

Mae'r AS Ceidwadol dros Orllewin Suffolk Nick Timothy wedi beirniadu'r diffyg newyddion am Wylfa. 

"Mae'r Ysgrifennydd Ynni wedi cyhoeddi dim ond un adweithydd niwclear bychain (SMR). Does yna ddim targed clir i gynyddu cynhyrchu ynni niwclear, a dim newyddion am Wylfa," meddai.

"Felly a oes modd iddo ymrwymo i’r cynlluniau a gafodd eu hetifeddu ar gyfer trydydd gorsaf niwclear ar raddfa gigawat yn Wylfa?"

Ymatebodd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband drwy ddweud fod y Ceidwadwyr wedi gwneud "addewidion ar niwclear, ond eu bod wedi methu â'u cyflawni” oherwydd “nad oeddent wedi darparu'r arian,  ac nad oeddent wedi gwneud y buddsoddiad."

'Oes aur'

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae Rolls-Royce SMR yn y "cam olaf" o'r cyfnod asesiad gan reoleiddwyr annibynnol diwydiant niwclear y DU cyn iddyn nhw arwyddo'r cytundeb terfynol. 

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Great British Energy – Nuclear, Gwen Parry-Jones: “Yn amodol ar gymeradwyaeth y llywodraeth ac arwyddo cytundebau, byddwn yn cyflwyno rhaglen sydd o'r radd flaenaf yn dechnegol ac sy'n rhoi gwerth gwirioneddol i bobl Prydain — drwy sicrwydd ynni, cyfleoedd economaidd, ac arweinyddiaeth amgylcheddol [drwy gydweithio gyda Rolls-Royce SMR]”.

Dywedodd y Canghellor, Rachel Reeves: “Mae’r DU yn ôl ble mae’n perthyn, gan gymryd yr awenau ym maes technolegau yfory – a hynny gyda Rolls-Royce SMR fel y partner sydd wedi ei ffafrio ar gyfer y daith hon.” 

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband ein bod bellach yn camu i “oes aur niwclear gyda'r rhaglen adeiladu fwyaf mewn cenhedlaeth.”

Sizewell C

Dros y misoedd diwethaf mae'r llywodraeth wedi bod yn dewis rhwng adweithyddion gan gwmnïoedd GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC, Holtec Britain Ltd, Rolls-Royce SMR Limited, a Westinghouse Electric Company UK Ltd.

Mae’r llywodraeth bellach wedi cyhoeddi ddydd Mawrth bod Great Britihs Energy – Nuclear yn bwriadu arwyddo cytundebau gyda Rolls-Royce SMR yn nes ymlaen yn y flwyddyn gan ffurfio cwmni datblygu. 

Daw’r cyhoeddiad wedi i iddyn nhw gadarnhau hefyd y bydd gorsaf niwclear Sizewell C yn Suffolk yn gweld golau dydd.

Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai 10,000 o swyddi yn cael eu creu fel rhan o fuddsoddiad gwerth £14.2 biliwn i adeiladu gorsaf niwclear Sizewell C yn Suffolk. 

Mae'r Llywodraeth yn dweud y byddai'r 10,000 o swyddi yn cynnwys 1,500 o brentisiaethau ac yn cefnogi 'miloedd o swyddi ar draws y DU'.

Fe fydd o gwmpas chwe miliwn o gartrefi yn cael eu pweru gan ynni Sizewell C. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.