Newyddion S4C

Stormydd yn 'bosib' yn ystod yr wythnos

Storm

Mae ‘na bosibilrwydd y bydd y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion ar gyfer stormydd yn ystod yr wythnos.

Ond yn ôl dirprwy brif feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, fe allai’r tymheredd godi’n uwch unwaith eto erbyn diwedd yr wythnos gan arwain at dywydd poeth eithafol yn rhannau o Gymru.

Dywedodd Mike Silverstone: “Mae’n bosib y gallai’r tymheredd gyrraedd y trothwy ar gyfer tywydd poeth eithafol mewn rhannau o’r DU, yn enwedig gogledd-orllewin canolbarth Lloegr, gogledd-orllewin Lloegr a gogledd-ddwyrain Cymru.”

Ond mae’n dweud bod hynny’n dibynnu ar ba mor gymylog fydd hi nes ymlaen yn yr wythnos hefyd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod ‘na bosibilrwydd o fellt a tharanau ganol wythnos.

Yn ôl y rhagolygon, fe allai stormydd daro brynhawn dydd Mercher yn dilyn cyfnod o dywydd braf ddydd Mawrth.

Fe all hyd at 20-40mm o law gwympo mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig o fewn ychydig o oriau yn unig yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Mr Silverstone mai’r tywydd poeth sydd yn gyfrifol am unrhyw bosibilrwydd o stormydd wrth i “rywfaint o aer poeth” symud o’r de i’r DU. 

“Er nad oes unrhyw rybuddion ar gyfer tywydd gwael eithafol wedi’u cyhoeddi ar hyn o bryd, mae’n bosib y bydd rhybuddion ar gyfer stormydd yn cael eu cyhoeddi'r wythnos hon,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.