
Stori ganser Lowri: 'Mor bwysig trin y pwnc efo'r parch y mae'n haeddu'
Roedd hi mor bwysig i drin stori ganser Lowri yn y gyfres deledu Rownd a Rownd "efo'r parch mae'n haeddu" yn ôl yr actores sy'n portreadu'r cymeriad.
Mae stori cymeriad Lowri Parry o gael canser y fron yn Rownd a Rownd wedi ei seilio ar stori dynes aeth drwy'r profiad ei hun, sef Nia Elain Roberts.
Ar hyn o bryd mae Lowri, sydd yn gweithio yn y salon, yn cael triniaeth am ganser ar ôl darganfod lwmp yn ei bron ar y gyfres opera sebon.
Dywedodd yr actores Lowri Gwynne sydd yn portreadu’r cymeriad: "Ges i wybod am y storyline canser tua blwyddyn yn ôl...dwi ddim yn unigryw o gwbl yn hyn ond ma' genna ni dipyn o hanes o gancr y fron yn y teulu.
"Yn y 10 mlynedd dwytha, ma' Mam 'di gael o, chwaer Mam 'di gael o, a fy chwaer yng nghyfraith yn ei 30au hefyd.
"Dwi'n ymwybodol fydd gymaint o bobl yn gwylio Rownd a Rownd sydd wedi cael profiad uniongyrchol neu profiad teulu o ganser.
"O'n i jyst rili isio neud yn siŵr bo' ni'n trin y pwnc efo'r parch ma'n haeddu."

Roedd hi'n bwysig i "warchod y cast" yn ôl cynhyrchydd y gyfres, Annes Wyn.
"Pan ma'r storïwyr yn dod â syniad am stori mor fawr â hyn i ni, ma' hi'n stori arbenigol iawn a 'sgenna ni ddim llawer o brofiad yn y maes, ma'n rili pwysig i ni bo' ni'n gwarchod pawb sy'n gweithio ar Rownd a Rownd.
"Dach chi byth yn gwbod sut ma'r straeon 'ma yn gallu effeithio ar gast ifanc a hŷn," meddai.
Ychwanegodd aelod o'r tîm storïo, Kristy Jones: "Ma'n bwysig i ni fel storïwyr a sgwennwyr Rownd a Rownd bo' ni'n neud petha sydd yn bwysig i'n cynulleidfa ni a'n berthnasol.
"Natho ni ddechra meddwl am y stori yma i Lowri a wedyn yn amlwg y cam cyntaf i ni efo unrhyw stori fel 'na, 'dan ni isio neud yn siŵr bod ni'n neud o'n gywir."

Fe gafodd y stori ei seilio ar brofiad Nia Elain Roberts, wedi iddi hi gael diagnosis o ganser y fron ym mis Tachwedd 2023 yn 46 oed.
"Mi ddoth o yn sioc enfawr. Oedd o'n daith a hannar nes i fynd arni hi a fel ma' pob person sy'n cael diagnosis o unrhyw fath o ganser, mi nes i gael y diagnosis a wedyn mi fuodd raid i mi fynd drwy broses o gael mastectomi, a wedyn hefyd cemotherapi," meddai Nia.
Ym mis Mehefin y llynedd, fe wnaeth Nia gwblhau'r cwrs cemotherapi.
Ychwanegodd Nia fod gwylio'r golygfeydd emosiynol o Lowri yn wynebu'r un profiad yn y gyfres yn "reit anodd i wylio" a'i fod yn "andros o debyg" i'w phrofiad hi.
"Nes i fynd i mewn fy hun ag o'n i'm 'di disgwyl hynny, o'n i'n meddwl 'swn i 'di cael gwybod efo Rhys wrth fy ymyl i," meddai.
"Ar y pwynt yna, dim ond chdi a dy deulu di sy'n bwysig i chdi."

Roedd y profiad o ddweud wrth ei phlant am y diagnosis yn heriol iawn hefyd yn ôl Nia.
"Oedd o'n galad iawn deud wrthyn nhw. Oedd Gwern genna fi yn 15 ar y pryd a Leusa yn 12 ag yn amlwg oedd 'na gyfnod lle oeddan ni'n ypset ofnadwy...oedd o'n ddiwrnod anodd.
"Ond oedd gen i hefyd wrth gwrs oherwydd fy oedran i angen deud wrth fy rhieni i ag os wbath oedd hwnna yn galetach na deud wrth y plant," meddai.
"Oedd hwnna yn heriol iawn achos fi sydd fod i edrych ar ôl nhw, ond ma' nhw'n ffantastig, dwi ddim yn gwbo be' fyswn i'n neud hebddyn nhw - ma' nhw wedi bod yn anhygoel.
"O'n i'n poeni am fy mhlant, poeni am fy rhieni, oedd fy ngŵr i yn poeni amdana fi ond fyswn i ddim wedi gallu g'neud hyn hebddyn nhw."

Mae'r cynhyrchwyr, y storïwyr a'r holl gast yn gobeithio eu bod nhw wedi gwneud cyfiawnder â phrofiad Nia.
Dywedodd Annes Wyn: "Ein gobaith ni ar Rownd a Rownd ydi bo' ni yn cyfleu straeon fedrith bobl uniaethu efo nhw, straeon sy'n real a sy'n cyffwrdd pobl sy'n gwylio a 'dan ni'n gobeithio bo' ni'n neud cyfiawnder efo stori Lowri," meddai.
Ychwanegodd Kristy Jones: "Er bod o wedi seilio ar stori Nia a bo' ni isio neud cyfiawnder â hynna, oeddan ni hefyd yn ymwybodol mai stori Lowri oedd hon hefyd, stori Lowri a Phillip a'u teulu nhw."
Ychwanegodd Lowri Gwynne: "Wrth ymchwilio i brofiadau gwahanol o ganser, ma' profiad pawb mor wahanol.
"O lle mae o, diagnosis, triniaeth, prognosis, ond o'dd o'n gymaint o angor i ni rili i fedru dilyn stori un person jyst i neud siŵr bod o mor ffeithiol gywir â phosib.
"Ti jyst isio neud siŵr bo' chdi'n diolch ag yn dangos y parch yna i'r person sydd wedi menthyg eu stori nhw i chdi yn y ffordd mwya posib.
"Ma' cyfleu stori ma' person go iawn wedi menthyg i'r rhaglen yn gyfrifoldeb a 'dan ni mor ffodus bod Nia wedi bod mor hael efo'i phrofiad."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.