
'Ymgeiswyr disglair': Cyhoeddi rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod 2025
Mae’r pedwar person sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni wedi eu cyhoeddi.
Wedi dod i’r brig mae Rachel Bedwin, sy’n byw yn ardal Bangor, Lucy Cowley sy’n byw yn Llangollen, Hammad Hassan Rind sy’n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy’n byw ym Mhrestatyn.
Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni, sydd wedi’i threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Roedd angerdd y cystadleuwyr dros y Gymraeg yn “heintus”, yn ôl y beirniaid.
“Roedd pob un ohonyn nhw’n dweud bod dysgu’r Gymraeg wedi ysgogi newid yn eu bywydau ac wedi agor y drws ar gyfoeth o brofiadau gwerthfawr, a llu o ffrindiau newydd.
“Daeth pedwar i’r brig o blith yr ymgeiswyr disglair. Roedd gwrando ar eu profiadau o ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn ysbrydoliaeth, a 'dyn ni’n eu llongyfarch nhw, a’r holl ymgeiswyr.”
Pwy sydd ar y rhestr fer?

Rachel Bedwin - O Lundain yn wreiddiol, symudodd Rachel i ardal Bangor i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Erbyn hyn, mae’n gweithio yn adran Polisi ac Eiriolaeth RSPB Cymru. Mae’n aelod o gôr Cymraeg lleol ac yn mwynhau helpu aelodau eraill gyda’u Cymraeg gan ei bod yn credu fod dysgu’r iaith yn gallu newid bywydau pobl.

Lucy Cowley – O Is-y-Coed, Wrecsam, sef cartref yr Eisteddfod eleni mae Lucy bellach yn byw yn Llangollen. Wrth weithio fel athrawes, fe wnaeth Lucy sylweddoli ei bod wrth ei bodd yn rhannu’r Gymraeg gyda’r plant. Aeth ati i ati ddilyn cyrsiau, a bellach mae hi wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn Llangollen, sy’n denu dysgwyr o gefndiroedd amrywiol.

Hammad Hassan Rind - Mae Hammad a’i wraig, Charlotte wedi bod dysgu Cymraeg ers dros flwyddyn a hanner, ac yn dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a ffoaduriaid gyda ‘Made in Roath’, gan ddefnyddio’r ieithoedd eraill mae’n eu siarad i gyfathrebu. Mae Hammad hefyd wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth, erthyglau a straeon yn y Gymraeg, ynghyd â chyfieithu cerddi o’r Arabeg i’r Gymraeg. Eleni, bydd yn cychwyn cwrs PhD ar lenyddiaeth Gymraeg.

Leanne Parry – Daeth Leanne Parry yn ôl i ogledd Cymru i ail-gydio yn y Gymraeg a magu’i mab yn ddwyieithog. Mae’n gweithio fel ffisiotherapydd niwrolegol yn Ysbytai Glan Clwyd a Bae Colwyn, ac yn 2024, fe enillodd deitl ‘Dysgwr y Flwyddyn Betsi Cadwaladr’ ar lefel canolradd. Yn wreiddiol o’r Rhyl, mae Leanne yn byw ym Mhrestatyn, lle mae’n cyfarfod â dysgwyr eraill yn rheolaidd i ymarfer eu Cymraeg.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 6 Awst am 13:30, a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300, yn rhoddedig gan Ann Aubrey. Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.