'Diolchgar': Bwyty poblogaidd yng Nghaernarfon i gau ei ddrysau
Fe fydd bwyty bwyd cain yng Nghaernarfon yn cau ei ddrysau o ddiwedd mis nesaf ymlaen.
Cyhoeddodd Sheeps And Leeks sydd ar Stryd Porth y Dwyrain eu bod nhw’n bwriadu cau ar ddydd Iau 31 Gorffennaf.
Sefydlwyd y bwyty, sydd â lle i 20 o gwsmeriaid, yn 2019.
Mae’r bwyty wedi ennill nifer o wobrau a chydnabyddiaeth ar hyd y blynyddoedd.
Mewn datganiad dywedodd Sheeps And Leeks: "Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn, wedi'i yrru gan gostau sy'n codi'n barhaus ac sydd i fod i barhau.
"Ond cofiwch, nid dyma ddiwedd Sheeps And Leeks o reidrwydd.
"Bydd y brand yn parhau, gyda chynlluniau ar gyfer siopau dros dro, amrywiaeth o fwydydd, a'r posibilrwydd o ddod o hyd i gartref newydd ar safle arall yn y dyfodol.
"Rydym mor falch o bopeth rydym wedi'i gyflawni ar y safle hwn dros y chwe blynedd diwethaf - o wobrau lluosog i'r atgofion gwych a grëwyd gyda chi i gyd, ein gwesteion, cefnogwyr a ffrindiau anhygoel.
"Diolch yn fawr iawn i'n holl staff, y gorffennol a'r presennol - rydych chi wedi bod yn rhan o'r daith epig hon ac wedi helpu i lunio Sheeps And Leeks i'r hyn a ddaeth.
“Rwy'n ddiolchgar iawn i'm ffrindiau a'm teulu a roddodd eu hamser a'u hegni i helpu i sefydlu'r bwyty - ni fyddwn wedi gallu gwneud hynny hebddoch chi."
Fe enillodd Sheeps and Leeks y wobr am fwyty gorau’r flwyddyn yng Nghymru yng Ngwobrau Prestige 2025/26.
Dywedodd y bwyty taw eu “cenhadaeth yw darparu profiad bwyta bythgofiadwy i westeion”, gan “hyrwyddo’r cynnyrch gorau o’n hardal leol”.