Llys yn clywed bod cwpl sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr wedi curo eu plant
Mae llys wedi clywed bod cwpl sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr dwyflwydd oed wedi curo eu plant pan oeddent yn tyfu i fyny.
Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, wedi’u cyhuddo o ladd eu hŵyr Ethan Ives-Griffiths, yn eu cartref ym mis Awst 2021.
Mae’r ddau o Stryd Kingsley, Garden City, Sir y Fflint, yn gwadu achosi marwolaeth Ethan.
Mae nhw hefyd wedi pledio'n ddieuog i achosi neu ganiatáu'r farwolaeth, a chreulondeb rhwng 8 Mehefin ac 17 Awst 17, 2021.
Mae Shannon Ives, o Nant Garmon, yr Wyddgrug, yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i berson dan 16 oed.
Clywodd yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug fod Ethan, a oedd yn byw yn y cartref gyda’i fam, Shannon Ives, wedi dioddef “anafiadau trychinebus i’r pen” ac roedd o dan ei bwysau yn ddifrifol pan fu farw.
Wrth roi tystiolaeth ddydd Iau, dywedodd mab yr Ives, Josh Ives, fod disgyblaeth gorfforol wedi’i defnyddio gan ei rieni pan oedd ef a Shannon yn tyfu i fyny. Dywedodd wrth y llys y byddent yn dyrnu ei goesau a’i freichiau.
Gofynnodd Caroline Rees KC, ar ran yr erlyniad: “Pa mor aml fyddech chi’n cael eich dyrnu gan eich rhieni?”
Atebodd Mr Ives: “Ddim mor aml â hynny, unwaith yr wythnos.”
Dywedodd ar achlysuron prin eu bod nhw wedi defnyddio gwregys i’w daro.
Dywedodd hefyd y byddai ei rieni’n gwasgu ei arddwrn neu’n ei slapio ar gefn ei ben.
Ychwanegodd: “I blentyn byddai’n brifo ond ni fyddwn yn dweud ei fod yn ormodol.”
Dywedodd Mr Ives fod y defnydd o rym corfforol wedi dod i ben pan oedd rhwng 10 a 12 oed.
Dywedodd iddo symud allan o gartref y teulu ym mis Mai 2021, pan oedd tua 23 oed, yn dilyn dadl am ei gariad a’i gi yn byw yno.
Dywedodd wrth y llys yn dilyn marwolaeth Ethan ei fod wedi cadw draw oddi wrth ei deulu, gan ychwanegu: “Dydw i ddim yn siarad ag unrhyw un ohonyn nhw.”
Yn gynharach yn y dydd, clywodd y llys gan Aaron Moss, partner merch Kerry a Michael Ives, Rachel.
Dywedodd Mr Moss fod Ethan a’i fam wedi aros gyda nhw yn 2021 cyn symud i dŷ ei rhieni.
Dywedodd wrth y rheithgor y byddai’n clywed Ethan yn “cwyno, fel mae babanod yn ei wneud” o’r ystafell nesaf.
Pan ofynnwyd iddo sut y byddai Shannon Ives yn ymateb i'w mab, dywedodd: “Roedd hi'n arfer dweud wrtho am gau ei geg a mynd yn ôl i'r gwely.”
Disgrifiodd hefyd glywed “clep” o'r ystafell ar un achlysur a dywedodd ei fod yn swnio fel pe bai hi wedi “rhoi Ethan yn ôl yn ei wely yn rymus”.
Ar noson Awst 14, dywedodd iddo fynd i gartref yr Ives ar ôl cael gwybod bod Ethan yn cael ei gludo i'r ysbyty a gweld y plentyn bach yn gorwedd ar y llawr “heb symud, heb anadlu, llygaid ar gau”.
Pan ofynnwyd iddo a allai gofio unrhyw beth am yr hyn yr oedd Shannon yn ei wneud, dywedodd: “Gallaf ei chofio hi'n gofyn am hidlydd ar gyfer sigarét.
“Roedd hi'n iawn, roedd hi'n normal.”
Mae'r achos yn parhau.