Achos o haint cryptosporidium ar fferm ym Mro Morgannwg wedi dod ben
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod achos o haint cryptosporidium ymhlith pobl wnaeth ymweld â siop fferm yn y Bont-faen, ym Mro Morgannwg, wedi dod i ben.
Cafodd cyfanswm o 89 o achosion eu cysylltu gyda’r haint yn Siop Fferm y Bont-faen ers diwedd mis Ebrill.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau nad oedd unrhyw achos wedi ei gofnodi ers 28 Mai a bod yr achos “nawr ar ben”.
Dywedodd Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru Susan Mably:“Hoffem ddiolch i bawb yr effeithiwyd arnynt gan yr achos hwn am eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad.“Fel rhan o weithdrefnau iechyd cyhoeddus arferol, bydd adolygiad llawn o’r achos yn digwydd nawr a bydd adroddiad ar yr achos yn cael ei gynhyrchu.
Math o salwch yw cryptosporidium sy'n gallu achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn, a chrampiau stumog.
Mae ŵyn ac anifeiliaid fferm eraill yn gallu lledaenu'r haint.
Roedd Siop Fferm y Bont-faen wedi rhoi'r gorau yn wirfoddol i'r gweithgareddau oedd ymwneud â'r anifeiliad er mwyn cydweithredu â’r ymchwiliad.
Er bod yr achos wedi dod i ben, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd ymarfer hylendid da – gan gynnwys golchi dwylo’n drylwyr â sebon a dŵr – yn enwedig ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid neu’r amgylchedd naturiol.