£107 miliwn i gwmni Cymreig ddatblygu triniaethau ar gyfer iselder
Mae cwmni gwyddonol o Brifysgol Caerdydd wedi cael buddsoddiad gwerth £107 miliwn i ddatblygu therapïau “trawsnewidiol” ar gyfer anhwylderau gan gynnwys iselder difrifol.
Dyma'r buddsoddiad masnachol mwyaf mewn ymchwil yng Nghymru erioed.
Yn ôl yr Athro Simon Ward, o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, gallai’r cyffuriau gael eu defnyddio ymhen pum mlynedd gan ddod ag “arian sylweddol” yn ôl i’r brifysgol.
“Ma' gwneud y treialau hyn yn gostus tu hwnt. Mae angen arian sylweddol i ddatblygu triniaethau arbennig ar gyfer pob math o gyflyrau gan gynnwys iselder a phryder,” meddai.
“Ni angen darganfod a yw’r cyffur yn mynd i fod yn saff, ond hefyd a yw’n mynd i fod yn effeithiol.
“Ma’r meddyginiaethau a’r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd yn eithaf hen, ac er i fod nhw’n help mawr i lot o bobl ma’ nifer yn dal ddim yn cael yr help ma’ nhw angen yn enwedig gydag iselder.
“Yn y pendraw os ydy’r cwmni yn llwyddo, bydd arian sylweddol yn dod yn ôl i Brifysgol Caerdydd.
"Ac ma’ hynny’n helpu gyda system economaidd y brifysgol, sydd fel ry’ ni’n gwybod yn anodd iawn ar hyn o bryd.”
‘Hyder'
Ymchwil o Gymru sydd wrth galon cwmni Draig Therapeutics, ond yn ôl yr Athro Ward mae angen cael mwy o hyder yng ngallu gwyddonol Cymru.
“Ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni o Gaerdydd," meddai.
"Mae’n le priodol oherwydd yr arbenigedd yn y maes a dyle ni fod yn falch o hynny. Wrth godi’r arian yn America, Asia ac Ewrop roedd 'na lawer o ddiddordeb am wreiddiau'r cwmni, a neb yn cwestiynu 'pam Cymru?'.
“Un o’r pethau sydd fwyaf rhwystredig i fi yw’r diffyg hunan hyder sydd gennym ni yng Nghymru, ac nad yw pobl yn medru gweld be sy’n bosib yng Nghymru.”
Yn rhan o’r buddsoddiad, bydd tri chyffur sydd â'r potensial i fod gyda’r gorau o ran trin anhwylderau niwroseiciatrig yn cael eu datblygu mewn treialon clinigol.
“Rwy moyn cyfrannu at hyder pobl yma i gario mlaen a’i syniadau, bod pobl sy’n astudio gwyddoniaeth yma yn gweld y cyfleoedd a'r arian sy’ ar gael, a’r arian sydd yn bosib cyflawni syniadau a’r potensial sydd gennym ni," meddai.
“Fyswn i’n hoff iawn o weld mwy o bwyslais ar beth sy’n bosib ar lefel wyddonol yng Nghymru, a gweld y potensial o be sy’n bosib.
“Dyw e ddim yn rhan annatod o beth i ni’n trafod yn ein cymunedau Cymraeg yng Nghymru , fyddai’n hyfryd gweld twf o ddiddordeb yn y maes.”