Ynys Môn: Cyhuddo pedwar mewn cysylltiad â llosgi hen neuadd y sir yn Llangefni
Mae pedwar unigolyn ifanc wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â thân a ddigwyddodd yn hen neuadd y sir yn Llangefni ym mis Rhagfyr 2023.
Mi achosodd y tân ddifrod sylweddol i’r adeilad, oedd yn arfer cael ei ddefnyddio fel pencadlys y cyngor.
Mae'r bobl ifanc wedi eu cyhuddo o losgi bwriadol, meddai'r heddlu.
Mi fydd y pedwar diffynnydd, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, yn ymddangos yn Llys Ieuenctid Caernarfon ar ddydd Mercher, 9 Gorffennaf.