
Arolwg barn newydd yn awgrymu cefnogaeth gref i'r Gymraeg
Mae arolwg barn newydd wedi awgrymu bod pobl o bob cwr o Gymru yn gefnogol iawn ar y cyfan i'r Gymraeg a sicrhau dyfodol i'r iaith.
Fe wnaeth ymchwilwyr Beaufort holi 1,000 o bobl dros 16 oed yng Nghymru am eu hagweddau at yr iaith Gymraeg mewn arolwg ar ran cwmni cynhyrchu teledu Darlun.
Yn ogystal ag awgrymu cefnogaeth cyffredinol ar draws Cymru i’r iaith, roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu bod pobl ifanc, ar y cyfan, yn fwy cefnogol i’r iaith na’r to hŷn.
Fe gafodd pobl eu holi am eu hagweddau ar addysg Gymraeg, y targed 1 miliwn o siaradwyr Llywodraeth Cymru, a dyfodol yr iaith.
Mae’r arolwg yn awgrymu bod 73% o bobl Cymru yn cefnogi targed y llywodraeth o gynyddu nifer o siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050.
O’r rheini wnaeth ymateb, roedd 36% yn cefnogi yn gryf, 38% yn tueddu i gefnogi, 15% yn tueddu i wrthwynebu, 7% yn gwrthwynebu yn gryf, a 5% ddim yn gwybod.
Roedd gwahaniaeth hefyd o ran oedran, gyda 82% o bobl 16-34 yn gefnogol o’i gymharu â 57% o bobl dros 55.
Roedd 58% hefyd yn credu y byddai yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad a’i defnyddio mewn bywyd bob dydd mewn 100 mlynedd.
O’r rheini wnaeth ymateb, roedd 21% yn gweld hynny’n debygol iawn, 37% yn gweld hynny’n debygol, 25% yn gweld hynny’n annhebygol, 12% yn gweld hynny’n annhebygol iawn, a 5% ddim yn gwybod.
Unwaith eto, roedd gwahaniaeth o ran oed, gydag 61% o’r rheini oedd yn 16-34 oed yn credu y byddai yr heniaith yn parhau, o’i gymharu â 53% o bobl dros 55 oed.
Addysg
Fe wnaeth yr arolwg hefyd ofyn cwestiynau am addysg Gymraeg yng Nghymru.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu anghytuno y dylai pob plentyn yng Nghymru ddysgu Cymraeg yn yr ysgol?
- Cytuno’n gryf: 40%
- Tueddu i gytuno: 37%
- Tueddu i anghytuno: 14%
- Anghytuno yn gryf: 6%
- Ddim yn gwybod: 2%
Dywedodd Catrin Davies o Beaufort fod y canran “yn reit uchel ac yn fwyafrif ar draws pob ardal yng Nghymru a’r gwahanol grwpiau oedran i gyd yn cytuno”.
Roedd y canran oedd yn cytuno ychydig yn uwch yn y gogledd, gydag 84% yn gwneud hynny, ac ar ei isaf yng Nghaerdydd a’r de ddwyrain, lle’r oedd 72% yn cytuno.
Roedd 95% o siaradwyr Cymraeg yn cytuno a 70% o’r di-Gymraeg.
Roedd ychydig o wahaniaeth hefyd rhwng rhieni a’r rheini heb blant, gydag 83% o’r rheini oedd â plant yn cytuno o’i gymharu â 75% oedd heb blant.
Fe ofynnodd yr arolwg hefyd a oedd pobl yn cytuno y dylai pob plentyn yng Nghymru fod yn rhugl erbyn gadael yr ysgol?
- Dylai: 49%
- Na ddylai: 46%
- Ddim yn gwybod: 5%
Fe ofynnodd yr arolwg hefyd a oedd siarad Cymraeg yn cael ei weld fel rywbeth ar gyfer y dosbarth canol.
- Cytuno’n gryf: 6%
- Tueddu i gytuno: 24%
- Tueddu i anghytuno: 40%
- Anghytuno yn gryf: 24%
- Ddim yn gwybod: 5%
Roedd y canran oedd yn cytuno ar ei uchaf yng Nghaerdydd a’r de ddwyrain ar 37%, ac ar ei isaf yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ar 24%.
‘Camp’
Wrth ymateb i’r arolwg, dywedodd cadeirydd Dyfodol i'r Iaith bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu'n "gadarn a di-ofn" i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
Dywedodd Heini Gruffudd: "Mae'n beth gwych bod 'na gefnogaeth eang i’r Gymraeg erbyn hyn ledled y wlad.
"Ond mae'n bryd i ni gael gweithredu cadarn a di-ofn i gynyddu'r niferoedd a cynyddu'r cyfleoedd i siarad yr iaith."
Yn ôl Mr Gruffudd y "flaenoriaeth" i'r llywodraeth ydi sicrhau bod 40% o ddisgyblion yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050.
"Ni heb lwyddo i gynyddu mewn gwirionedd niferoedd sy’n cael addysg Gymraeg o rhyw 20-23% dros rhyw 10 mlynedd yn ôl hyd at heddiw," meddai.
"Felly'r hyn sy’n hollol amlwg yw bod angen llawer mwy o weithredu cadarnhaol i gyrraedd y targed o 40% mewn addysg Gymraeg."
Ychwanegodd: "Dyna’r flaenoriaeth dwi’n meddwl, cynyddu addysg Gymraeg i 40%, ac o’r pwynt hwnnw wedyn synnwn i ddim na fydd y galw am addysg Gymraeg yn mynd i fyny i 60% - ond mae angen cael y llwyddiant cyntaf 'na."

Yn ogystal â chanolbwyntio ar addysg, mae Mr Gruffudd yn dweud bod angen ailddiffinio "rhuglder" yn achos yr iaith Gymraeg.
"Mae angen rhoi ar led bod siarad y Gymraeg - Cymraeg naturiol sydd gan bobl - yn hynod o bwysig a diffinio hwnna fel rhuglder, yn hytrach na derbyn safonau gramadegol caeth," meddai.
Fel rhan o hynny mae'n dweud bod angen hybu defnydd naturiol o'r Gymraeg mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys siopau, caffis a thafarndai.
"Mae angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar hybu’r Gymraeg yn y mannau yna a falle dod â’r sector preifat i mewn i safonau’r Gymraeg," meddai.
"Ond yn sicr mae angen llawer mwy o waith ar y stryd fawr i neud y Gymraeg yn iaith nid yn unig sy’n cael ei gweld, ond yn cael ei chlywed.
"Felly, nawdd cynllun hyfforddi i rai sy’n gweithio mewn siopa, caffis a thafarndai a gwneud pobl yn falch o ddefnyddio’r Gymraeg sydd gyda nhw a hynny yn ei dro yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg cyn bwysiced â chyrraedd y miliwn."
Ychwanegodd: "Y gamp nawr yw gwneud yn siŵr bod yr iaith yn cael ei defnyddio’n gymdeithasol mewn cyment ag sy'n bosib o sefyllfaoedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bwriad Bil y Gymraeg ac Addysg yw rhoi cyfle teg i bawb yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
"Mae'r Bil yn cynnwys gofynion i Weinidogion Cymru nodi'r camau y byddant yn eu cymryd i sicrhau bod nifer y gweithwyr addysg yng Nghymru yn cwrdd â'r targedau addysg cyfrwng Cymraeg a osodwyd yn y Bil.
"Ar ben hynny, mae ein Cynllun Gweithlu Cymraeg mewn Addysg yn nodi nifer o gamau uchelgeisiol i ddatblygu'r gweithlu dros y 10 mlynedd nesaf."