Newyddion S4C

Y Bencampwriaeth: Pwy fydd clybiau Cymru'n eu herio gyntaf?

Wrecsam

Mae’r amserlen ar gyfer gemau yn y Bencampwriaeth, ac Adrannau Un a Dau yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr wedi ei chyhoeddi.

Fe fydd y ddau glwb o Gymru yn y Bencampwriaeth, Abertawe a Wrecsam, yn dechrau eu hymgyrch ar ddydd Sadwrn 9 Awst.

Fe fydd Abertawe yn chwarae oddi cartref yn Middlesbrough gyda Wrecsam i ffwrdd yn Southampton.

Fe fydd y gêm yn fedydd tân i Wrecsam yn erbyn tîm a oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Fe wnaeth Wrecsam hawlio eu lle yn y Bencampwriaeth ar ôl ennill dyrchafiad dri thymor yn olynol.

Fe fydd yn rhaid i’r clybiau o Gymru aros tan 20 Rhagfyr cyn herio’u gilydd, yn Abertawe yn gyntaf, cyn y gêm gyfatebol yn Wrecsam ar 14 Mawrth.

Fe fydd Abertawe yn cwblhau eu tymor gartref yn erbyn Charlton Athletic ar 2 Mai gyda Wrecsam hefyd yn chwarae gartref yn erbyn Middlesbrough.

Yn Adran Un, fe fydd Caerdydd, a gwympodd o’r Bencampwriaeth, yn herio Peterborough United yn eu gêm gyntaf ac yn cwblhau’r tymor yn erbyn Mansfield Town ar 2 Mai.

Yn Adran Dau fe fydd Casnewydd gartref yn erbyn Notts County yn eu gêm gyntaf ar 2 Awst ac yn cwblhau’r tymor i ffwrdd yn Barrow ar 2 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.