Newyddion S4C

Darganfod 'delweddau cudd' ym Meiblau Harri VIII a Thomas Cromwell

Beibl Thomas Cromwell / Harri'r VIII

Bydd "arddangosfa unigryw" ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wrth i Feiblau mawr Harri VIII a Thomas Cromwell ddod at ei gilydd am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd.

Dywedodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru bod yr arddangosfa yn "gyfle prin" i weld y ddau Feibl, a oedd yn gopïau personol i Harri’r VIII a Thomas Cromwell.

Nid oes sicrwydd pwy oedd yn berchen ar ba Feibl, gydag un yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r llall yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt.

Dyma'r tro cyntaf i'r ddau gopi a gafodd eu creu yn 1538/39, gael eu harddangos ochr yn ochr ers iddyn nhw gael eu creu, meddai'r Llyfrgell Genedlaethol.

Maent yn cael eu cyflwyno fel rhan o arddangosfa Trysorau yn Oriel Hengwrt Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan, bod symbyliad i gael Beibl Cymraeg yn rhan o'r arddangosfa newydd.

“Mae Oes y Tuduriaid yn dal apêl arbennig hyd heddiw," meddai.  

"Mae’r ddau Feibl yn eiddo personol dau o gymeriadau mawr y cyfnod ac maent yn ganolbwynt arddangosfa hynod sy’n olrhain digwyddiadau pellgyrhaeddol sy’n berthnasol i ni nawr."

Image
Un o'r Beiblau yn cael eu hastudio. (Llun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Un o'r Beiblau yn cael eu hastudio. (Llun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Ychwanegodd Mr Morgan: "Fe welwn yn yr arddangosfa stori’r newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod, gan gynnwys y symbyliad i gael Beibl Cymraeg, cam allweddol yn hanes a pharhad yr iaith Gymraeg.  

"Braint hefyd yw cydweithio gyda Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt a’r tîm ymchwil wrth i dechnolegau arloesol helpu datguddio rhagor o gyfrinachau oddi fewn i’r ddau Feibl a darganfod mwy am amgylchiadau eu creu.” 

'Yr arteffactau pwysicaf'

Mae'r Beiblau wedi cael eu hastudio'n ofalus fel rhan o brosiect ymchwil Hidden in Plain Sight, sydd yn gydweithrediad rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Queen Mary yn Llundain.

Er mwyn darganfod sut cafodd y llyfrau eu creu a'u haddasu mae'r sefydliadau yn defnyddio amrywiaeth o offer gwyddonol, o belydr-x i ficrosgopau a hyd yn oed profion DNA.

Un o ganfyddiadau'r prosiect ydi sylwi bod Cromwell wedi ychwanegu ei bortread ei hun i dudalen deitl copi Coleg Sant Ioan - gweithred i neb sylwi arni am ganrifoedd.

Hefyd cafodd y dudalen deitl agoriadol ei newid ymhellach i ennill cefnogaeth Harri, trwy addasu delwedd o foneddiges i edrych fel Jane Seymour, un o chwe gwraig Harri.

Mae'r prosiect hwn wedi galluogi i ddelweddau oedd wedi eu cuddio ers canrifoedd gael eu datgelu, meddai'r Athro Eyal Poleg, o Brifysgol Queen Mary, Llundain.

“Dyma ddau o arteffactau pwysicaf Llys y Tuduriaid. Mae technolegau newydd wedi datgelu addasiadau, a fu’n gudd ers canrifoedd," meddai.

"Gallwn nawr werthfawrogi sut y gwnaeth Cromwell addasu’r Beiblau wrth iddynt gael eu hargraffu, gan lywio’n ofalus drwy gythrwfl crefyddol a gwleidyddol llys Harri.

"Mae’r gallu i weld y Beiblau ochr yn ochr, am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd, yn gyfle prin i weld y cyfnod unigryw hwn yn uniongyrchol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.