Newyddion S4C

System gwirio symptomau gwefan 111 yn cynnwys gwybodaeth sydd 'wedi dyddio'

Ambiwlans
Newyddion S4C

Mae gwefan gwirio symptomau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cynnwys gwybodaeth sydd "wedi dyddio", meddai adroddiad newydd.

Mae adroddiad gan Archwilio Cymru yn dweud nad ydi'r teclyn gwirio symptomau ar y wefan 111 Cymru yn cynnwys y wybodaeth gywir bob tro.

Un o'r gwallau gyda’r gwiriwr symptomau yn ôl yr adroddiad oedd neges 'gwall' yn ymddangos wrth chwilio.

Hefyd roedd y system wirio yn gallu cyfeirio’r defnyddiwr at wybodaeth sydd wedi dyddio, gan gynnwys hen rif Galw’r GIG Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi bod Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn "ymwybodol o'r materion parhaus... er bod gwelliannau bychain yn cael eu rhoi ar waith i ymdrin â phryderon".

Ychwanegodd yr Ymddiriedolaeth bod hwn yn fater "y dylai gael blaenoriaeth".

Mae pobl yn gallu ddefnyddio gwefan 111 Cymru er mwyn eu cyfeirio at y sefydliad gorau er mwyn derbyn cymorth gyda'u symptomau.

Nid yw'n rhoi diagnosis i bobl, ond yn dweud at bwy y dylai nhw fynd er mwyn derbyn y driniaeth neu argymhellion sydd eu hangen arnynt, pe hai hynny'n ddoctor neu fferyllydd.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru am ymateb i'r adroddiad.

'Buddsoddi'

Ar hyn o bryd mae rhwng 400,000 a 500,000 o bobl yn defnyddio gwefan 111 bob mis yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn nodi bod angen sawl gwelliant i'r gwasanaeth, ond un o'r prif argymhellion oedd mynd i'r afael â chael gwared ar y wybodaeth anghywir oddi ar wefan 111 Cymru.

"Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a ddefnyddir i gyfeirio cleifion at wasanaethau brys ac argyfwng yn gywir, dylai’r Ymddiriedolaeth weithio gyda phartneriaid i adolygu a disodli unrhyw hen wybodaeth neu wybodaeth gamarweiniol ar wefan 111 Cymru," meddai'r adroddiad.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r gwasanaeth ambiwlans yn dweud eu bod yn ymwybodol o'r "materion parhaus" gyda'r gwiriwr symptomau ac yn "cydnabod yr angen i fuddsoddi mwy" yn y wefan.

Ychwanegodd yr adroddiad bod yr Ymddiriedolaeth "wedi buddsoddi mewn datblygu technoleg cynorthwyydd rhithwir yn ystod 2024-25, a oedd yn dal ar y gweill ar adeg y gwaith maes".

"I ymdrin â heriau ehangach, mae’r Ymddiriedolaeth wedi drafftio achos busnes i ategu newidiadau mwy sylweddol i’r wefan, gan gynnwys diweddaru’r swyddogaethau y gellir eu cyflawni â gwirwyr symptomau a threfn lywodraethu well ar gyfer y drws blaen digidol," meddai.

Wrth ymateb i adroddiad Archwilio Cymru, dywedodd Jonny Sammut, Cyfarwyddwr Digidol yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym yn cydnabod ac yn derbyn canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru ac yn gweithio'n weithredol ac yn gyflym gyda Llywodraeth Cymru, comisiynwyr a'n Bwrdd ein hunain ar ailwampio gwefan 111 - gan gynnwys yr offer gwirio symptomau - i sicrhau bod y cyngor a'r wybodaeth maen nhw'n eu cynnig mor ddibynadwy a chyfredol â phosibl."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.