Newyddion S4C

Mam wedi gweld ei thad yn 'ysgwyd' ei mab cyn ei lofruddiaeth honedig

Ethan Ives-Griffiths

Roedd mam i blentyn a gafodd ei ladd yn honedig gan ei nain a'i daid wedi dweud wrth yr heddlu ei bod wedi gweld ei thad yn ysgwyd ei mab awr cyn iddo farw, clywodd llys.

Mae Kerry Ives, 46 oed a'i gŵr Michael, 47 oed, wedi eu hamau o lofruddio eu hŵyr pedair oed, Ethan-Ives Griffiths.

Bu farw Ethan yn yr ysbyty ar 16 Awst 2021 ar ôl i ambiwlans gael ei galw i dŷ yn Garden City yn Sir y Fflint ddeuddydd ynghynt.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau drawsgrifiad o gyfweliadau'r heddlu gyda mam Ethan, Shannon Ives.

Mae hi hefyd wedi ei chyhuddo o achosi neu alluogi marwolaeth plentyn a chreulondeb at blentyn.

Dywedodd y ddynes 28 oed wrth swyddogion yr heddlu bod ei thad, taid Ethan, wedi ei gludo i'w ardd gefn yn eu tŷ yn Garden City, lle'r oedd hi'n aros gyda'i mab ar 14 Awst 2021.

"Roedd Ethan yn dechrau crio a wedyn roedd Michael wedi gafael yn ei freichiau a'i siglo," meddai.

"Roedd yn crio a wedyn dywedodd Michael wrtho i fod yn dawel."

'Mor ofnus'

Clywodd y llys bod Ethan wedi dioddef anaf catastroffig i'w ben a gafodd ei achosi gan ddefnydd pwrpasol o rym a allai fod wedi cynnwys cael ei ysgwyd.

Dywedodd Shannon Ives wrth swyddogion ei bod hi wedi dweud wrth ei thad i beidio ag ysgwyd ei mab, ond roedd yn "gwrthod gwrando" arni.

"Roeddwn i mor ofnus, dwi mor ofnus, hyd yn oed hyd heddiw dwi ofn," meddai yn ystod y cyfweliad.

Ychwanegodd ei bod hi i fyny'r grisiau hanner awr yn ddiweddarach pan alwodd ei mam arni.

Cerddodd Shannon i lawr y grisiau i weld Ethan ym mreichiau ei daid, wedi llewygu.

"Dywedais wrth fy mam yn syth 'ffoniwch am ambiwlans'. Ond roedd hi a fy nhad yn dweud na ddylid gwneud am 'bum neu 10 munud rhag ofn iddo ddod nôl at ei hun'."

Fe wnaeth Shannon dderbyn y dylai ei bod wedi darparu cymorth i'w mab, oedd yn ddifrifol dan bwysau ac wedi ei "orchuddio â chleisiau" pan fu farw, clywodd y llys.

Dywedodd: "Dwi'n gwybod y dylwn i fod wedi gwneud rhywbeth, ond nid ydych chi'n deall y sefyllfa."

Ychwanegodd y byddai ei rhieni wedi ei "rheoli" a'i "bygwth".

'Cam-driniaeth gorffofol'

Fe ddywedodd wrth swyddogion y byddai hi'n canslo apwyntiadau gyda'r ymwelydd iechyd oherwydd ei rhieni, ac wedi dweud celwydd bod Ethan yn cysgu pan ddaeth gweithiwr cymdeithasol i'w gweld.

Mewn cyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd Shannon Ives y byddai ei thad yn gwneud i Ethan sefyll yng nghornel yr ystafell gyda'i ddwylo ar ei ben am hyd at ddwy awr ar y tro fel cosb.

Dywedodd ei fod yn digwydd "bob dydd" yn y tair wythnos yr oeddent yn aros gyda'i rhieni, a byddai Ethan yn cael ei daro pe bai'n symud.

Ychwanegodd fod ei mam hefyd wedi gwneud hyn i Ethan.

Gofynnodd yr heddlu iddi sut y byddai'n disgrifio'r hyn roedd ei rhieni yn ei wneud i Ethan, a dywedodd: "Cam-drin corfforol."

Mae'r llys eisoes wedi clywed bod Michael a Kerry Ives yn beio eu merch am farwolaeth Ethan.

Maen nhw'n gwadu llofruddiaeth, cyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i berson dan 16 oed.

Mae Shannon Ives, o Nant Garmon, yr Wyddgrug, yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i berson dan 16 oed.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.