Pêl-droed: Caernarfon i chwarae eu gemau cartref yn Llandudno am dymor
Bydd CPD Caernarfon yn chwarae eu gemau cartref yn Llandudno yn ystod tymor 2025/26, wrth i waith ailddatblygu cae'r Oval gael ei gwblhau.
Fe wnaeth Cadeirydd y clwb, Paul Evans gadarnhau wrth Newyddion S4C ddydd Iau y bydd y clwb yn chwarae ar gae Parc Maesdu yn Llandudno yn ystod y tymor sydd i ddod.
Lefelu'r cae yw canolbwynt y cynllun ar gyfer ailddatblygu stadiwm Caernarfon, sydd yng nghanol y dref.
Bydd angen i gefnogwyr y clwb deithio bron i 30 milltir er mwyn gwylio'r Canêris yn chwarae eu gemau cartref eleni.
Mae Llandudno yn chwarae yn y Cymru North, felly ni fydd y ddau glwb yn cystadlu yn yr un gynghrair y tymor hwn.
Yn ôl y cais cynllunio i ailddatblygu'r Oval, mae graddiant ar y cae yn uwch na'r hyn sy'n cael ei argymell yn swyddogol.
Ni ddylai'r graddiant fod yn uwch na 2.5%.
Y gobaith yw y bydd y cynlluniau yn creu “mwy o gyfleoedd” i bêl-droedwyr chwarae’r gêm “ar safon uwch” – a hynny drwy leihau’r llethr i raddiant o 1.43%.
Mae’r cais cynllunio hefyd yn amlinellu strwythur posib newydd a fydd angen ei ganiatáu er mwyn codi lefel y tir. Byddai'r strwythur yn “gwella” ardal y gwylwyr ger y cae, meddai’r cais cynllunio.
Daw’r cynlluniau fel rhan o brosiect a fydd yn buddsoddi £123 miliwn yn 2024/25 er mwyn cefnogi stadia ar lawr gwlad ar hyd y Deyrnas Unedig.