Syr Keir Starmer yn rhybuddio am 'gynllwyn cudd' yn etholiadau Senedd Cymru
Mae Syr Keir Starmer wedi rhybuddio am "gynllwyn cudd" rhwng y Torïaid, Reform UK a Phlaid Cymru cyn etholiadau Senedd Cymru'r flwyddyn nesaf.
Mewn araith i gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno, dywedodd Prif Weinidog y DU y byddai clymblaid o’r pleidiau hynny yn "dychwelyd i’r anhrefn a’r rhaniadau a welsom yn ystod y degawd diwethaf", gan amharu ar y cynnydd y mae ei blaid wedi ei wneud mewn grym.
"Boed hynny gyda Reform, neu gyda Plaid sy'n benderfynol o dorri Cymru i ffwrdd o weddill y wlad – heb unrhyw gynllun i roi Cymru yn ôl at ei gilydd," meddai yn y gynhadledd ddydd Sadwrn.
Mae Reform UK eisoes wedi dweud ei bod yn blaenoriaethu Cymru gydag etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026.
Fe wnaeth Llafur berfformio yn wael yn etholiadau lleol Lloegr eleni, gyda phlaid Nigel Farage yn ennill nifer o seddi cyngor sir.
Nid yw arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, wedi diystyru gwneud cytundebau gyda Phlaid Cymru na Reform yn etholiad nesaf y Senedd.
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i sylwadau Syr Keir gan ddweud ei fod yn "pedlera ffuglen".
Daw'r gynhadledd wedi i Syr Keir gael ei orfodi i wneud tro pedol sylweddol ar newidiadau i fudd-daliadau, a hynny er mwyn tawelu'r gwrthwynebiad i'r newidiadau ymysg Aelodau Seneddol ei blaid ei hun.
'Adnewyddu Cymru'
Wrth iddo nodi blwyddyn fel Prif Weindiog y DU yr wythnos nesaf, mae Syr Keir wedi ceisio tynnu sylw at y camau y mae ei lywodraeth wedi'u cymryd ers hynny y mae'n ei ddweud sy'n dod â manteision uniongyrchol i Gymru.
Maen nhw'n cynnwys cytundebau masnach rhyngwladol sy'n rhoi hwb i gwmnïau fel wisgi Penderyn, a deddfwriaeth i gryfhau hawliau gweithwyr, meddai.
Fe wnaeth Syr Keir hefyd ganmol manteision cael llywodraethau Llafur yn gyfochrog yn San Steffan a Chymru.
"Dyma'r blaid sydd wedi cael cyflogau i godi'n gyflymach yn y 10 mis cyntaf nag a lwyddodd y Torïaid mewn 10 mlynedd," meddai.
"Dyma'r llywodraeth sy'n gostwng biliau ac yn creu swyddi. Dyma'r mudiad a fydd yn ailadeiladu Prydain ac yn adnewyddu Cymru."
Dywedodd bod buddiannau pobl sy'n gweithio "wrth galon" y Blaid Lafur ac y bydd "bob amser felly.
"Neu, mae’r opsiwn arall. Y risg o droi’r holl gynnydd yn ôl rydyn ni’n dechrau ei wneud. Dychwelyd i’r anhrefn a’r rhaniad a welwyd yn ystod y degawd ddiwethaf.".
"Cynllwyn cudd (backroom stitch-up) yn yr ystafell gefn rhwng y Torïaid, Reform a Plaid Cymru. Ac unwaith eto, teuluoedd dosbarth gweithiol fydd yn gorfod talu'r pris.
"Boed hynny gyda’r Blaid Reform, neu gyda Phlaid Cymru sy'n benderfynol o dorri Cymru i ffwrdd o weddill y wlad – heb gynllun i roi Cymru yn ôl at ei gilydd."
Llun: PA