Newyddion S4C

Arestio dyn wedi 'marwolaeth sydyn' dyn 36 oed yn y Rhondda

Ffordd y Graig, Ynyshir

Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn "marwolaeth sydyn" dyn arall yn y Rhondda, yn ôl Heddlu De Cymru.

Cafwyd hyd i gorff Christian Dean, 36 oed, yn Ynyshir, Porth, ddydd Iau.

Cafodd swyddogion eu galw i dŷ ar Ffordd y Graig ychydig cyn 13:00.

Mae dyn 34 oed o Ynyshir wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau er mwyn ceisio cael darlun llawn o amgylchiadau'r farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.