Newyddion S4C

'Ennyd i ni i feddwl amdano': Pwysigrwydd gwasanaeth coffa i rieni sydd wedi colli plant

jen samson a dewi wilson.jpg

Mae mam a thad o Dreffynnon a gollodd eu plentyn wedi siarad am bwysigrwydd y gwasanaeth coffa blynyddol i blant.

Fe gollodd Jen Sansom a Dewi Wilson, eu mab, Owain, yn farw-anedig ar 20 Tachwedd 2014.

Dywedodd y ddau fod Gwasanaeth Coffa’r Sêr Bach, sy'n cael ei gynnal yn flynyddol yng Nghadeirlan Llanelwy, yn rhoi cyfle iddyn nhw a'u dau o blant, i dreulio awr gyda'i gilydd yn meddwl am Owain yn unig.

"Rydym yn siarad am Owain gyda’r plant. Maen nhw’n siarad amdano yn gyson. Mae’r gwasanaeth yn para awr, ar un diwrnod penodol, lle gallwn ni i gyd feddwl amdano. 

"Gyda'n gilydd, bob un ohonom ar yr un pryd. Mae’n ennyd i ni fel teulu i feddwl amdano," meddai Ms Sansom. 

Mae'r rhieni hefyd yn ystyried y gwasanaeth fel ffordd o ddiolch a dangos parch i'r staff a ofalodd amdanyn nhw tra roeddent yn cael eu plant. 

Fe wynebodd Ms Sansom feichiogrwydd anodd gydag Owain. Cafodd ei hystyried yn glaf risg uchel o gael plentyn â Syndrom Down, ond fe ddaeth y profion yn ôl yn negyddol. 

Er ei bod wedi dechrau teimlo fod y gwaethaf drosodd, fe ddechreuodd Ms Sansom deimlo'n sâl yn ddiweddarach.

"Ffoniais yr ysbyty oherwydd nid oeddwn yn teimlo’n dda ac roeddwn yn taflu i fyny," meddai.

"Roeddwn wedi mynd adref o’r gwaith ac mi gysgais y rhan fwyaf o’r diwrnod. Roeddwn yn ymwybodol bryd hynny nad oeddwn wedi teimlo’r babi’n symud."

Wedi iddi ffonio'r ysbyty, fe gafodd ei gwahodd i mewn er mwyn iddi allu cael ei harchwilio. 

Yn dilyn yr archwiliad, derbyniodd y ddau y newyddion hunllefus fod curiad calon eu babi wedi stopio. 

Fe benderfynodd Ms Sansom aros yn yr ysbyty ac fe gyrhaeddodd Owain y byd yn dilyn genedigaeth naturiol y bore canlynol. Roedd yn pwyso 3 pwys, 10 owns.

'Cydnabod colled'

Dywedodd Mr Wilson: “Rwy’n meddwl ei fod wedi fy nharo’n galetach i ddechrau o’i gymharu â Jen.”

Ychwanegodd Ms Sansom iddi deimlo'n "ddiemosiwn bron" ond fe newidiodd hynny pan roedd yn rhaid iddi gofrestru genedigaeth a marwolaeth Owain. 

Mae'r ymweliadau blynyddol i gofio a dathlu Owain yn ddigwyddiad parhaol yng nghalendr y teulu.

"Yn ogystal â chydnabod colled Dewi a minnau, rhan o’r rheswm pam ein bod yn mynd i’r gwasanaeth yw er mwyn ein teulu a’n ffrindiau, ond hefyd, er mwyn y gweithwyr proffesiynol hynny sy’n delio â sefyllfaoedd fel hyn. Mae’n anodd iddyn nhw hefyd," meddai Ms Sansom.

"Pan rydych yn mynd i’r gwasanaeth coffa, mae llawer o fydwragedd yn bresennol. Teimlaf ei bod yn bwysig eu bod nhw'n cael eu cydnabod hefyd, nid dim ond ni fel rhieni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.