Adolygiad: Oasis yn cynnig 'gobaith ac angerdd' mewn cyngherddau anfarwol yng Nghaerdydd
Mi wnes i gerdded allan o Stadiwm y Mileniwm, nos Wener ddiwethaf i fyd oedd yn teimlo’n newydd sbon, ond byd hefyd oedd yn gyfarwydd i’r byw.
Doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oeddwn i’n ei ddisgwyl, ond fel person sydd wedi profi newidiadau anferth i’m mywyd dros y 12 mis diwethaf, roeddwn i’n gwybod ac yn disgwyl i raddau y byddai Oasis fel band, wedi wynebu newid sawl newid dramatig.
Ond pan glywais i’r cord agoriadol egnïol o’r gân Hello, fe aeth hynny a fi yn syth yn ôl i gyngerdd y band ym mis Mehefin 2009, a hynny ar eu taith olaf cyn i’r enwog frodyr Gallagher ffraeo, gan gloi Oasis ar gof a chadw am 16 mlynedd.
Pan ddechreuodd Oasis chwarae eu cân gyntaf o’r noson Hello, nid dim ond cân oedd yma, ond roedd hefyd yn foment, ac yn deimlad a gafodd ei deimlo eto ar ôl blynyddoedd lawer.
Oedd, roedd llais Liam, yn fwy garw a fyntau bellach yn 52 oed, ond eto roedd ei lais i’w glywed yn fwy pendant nag erioed.
Dwi wedi darllen sylwadau gan bobl sy’n deall llawer mwy ‘na fi am leisiau cantorion ac artistiaid dros y 24 awr ddiwethaf, gyda’r mwyafrif yn datgan fod llais Liam “mor drydanol ag erioed”, ac ei fod heb swnio cystal ers dros ddau ddegawd, ac o ble roeddwn i’n sefyll – hanner ffordd i lawr y teras – roedd hynny’n wir i’r carn.

Fe symudodd y band yn gwbl naturiol drwy eu catalog o ganeuon, Acquiesce a What’s the Story Morning Glory oedd yn bwrpasol nesa’ ar y rhestr chwarae, a dyna’n union beth oedd y dorf ei angen.
Dim caneuon newydd, ond curiadau clasurol y band, y riffs cyfarwydd, gyda chytganau sydd wedi eu gludo fel cefndir i fywydau cenedlaethau o ffans Oasis.
Ac ar lefel bersonol, mi allaf gysylltu caneuon penodol i wahanol gyfnodau yn fy mywyd, y llawen a’r lleddf fel petai.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1941572693259628623
A dyna yn fy marn i sy’n bennaf gyfrifol am lwyddiant Oasis; y gallu syml i gyfathrebu gyda’r gwrandawr, ac i gyfleu pob emosiwn rydan ni fel pobol yn eu teimlo.
“Rhowch eich breichiau o amgylch eich gilydd,” meddai Liam cyn i Noel ddechrau strymio riff agoriadol Cigarettes & Alcohol.
A gyda hynny, bu i fwyafrif y dorf ufuddhau gyda phobl ddieithr yn cofleidio ei gilydd fel hen ffrindiau. (Roedd hyn un cam yn rhy bell i mi, fel cefnogwr clwb pêl-droed Leeds United fy hun, roedd y symudiad roedd Liam yn ei geisio gan y dorf, yn ddathliad sy’n aml i’w weld gan gefnogwyr Manchester City, y clwb sydd mor agos at galonnau’r brodyr Gallagher)
Ond roedd gweld degau o filoedd o bobl yn gwneud yn union fel roedd Liam Gallagher wedi ei orchymyn, heb os yn gwneud i ddyn deimlo’n fyw, teimlo cynhesrwydd cyd-ddyn, eiliadau o gyd-fyw gan anghofio am y byd a’i broblemau.

Rwyf wedi dilyn pob stori a phob awgrym dros yr 16 mlynedd diwethaf y gallai Oasis ail-ffurfio.
Ond yma yng Nghaerdydd yn ein Prif ddinas Ni, roedd yn teimlo fel eu bod nhw wedi dod o hyd i’w hunain eto – ac roedd y golygfeydd yn ein stadiwm rygbi cenedlaethol yn fy atgoffa o weld lluniau o Oasis yn perfformio ar droad y mileniwm, ac yn deimlad arbennig wrth fod yn dyst i hynny.
Wrth feddwl yn ôl am fod yn bresennol mewn rhai o gyngherddau’r band yn eu blynyddoedd olaf cyn y “Ffrae Fawr” doedd dim cymhariaeth i’r hyn oedd i’w deimlo nos Wener, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fod y cyngherddau hynny, yn enwedig yn 2008 a 2009, wrth edrych nôl yn teimlo’n flinedig a bod fflach y band a apeliodd yn wreiddiol at gynifer, wedi dechrau cilio.
Er i’r brodyr barhau i berfformio ar eu liwt eu hunain dros yr 16 mlynedd diwethaf, ni lwyddodd i’r un o’r ddau i greu’r un hud a lledrith a welwyd yn wreiddiol gan Oasis.
Fe ddaeth sesiwn wedyn yng nghanol y sioe gan Noel yn perfformio rhai o’r caneuon roedd ef ei hun wedi eu perfformio yn wreiddiol, gyda chlasuron yn cynnwys Half the World Away a Little by Little yn atseinio’n bwerus a phob un yn bresennol yn cyd-ganu pob un gair.

Yn 2009, roeddwn i a fy ffrindiau oedd wedi dilyn y band hefyd yn cyd-ganu’n uchel ac yn meddwl yn ddi-hid am bopeth, efallai ddim yn ystyried ystyr geiriau’r caneuon.
Ond nos Wener roedd y canu yn llawn ystyr, yn meddwl yn ôl am yr hyn rwyf wedi ei brofi ers gweld y band yn perfformio ddiwethaf, a gyda fy aren newydd yn setlo’n braf yn ei chartref newydd, roeddwn i’n ymwybodol o bob eiliad, gyda chaneuon fel Slide Away, Live Forever a Stand by Me yn swnio’n fwy emosiynol nag erioed, a llais Liam bellach yn adlewyrchu profiad, colled, ac aeddfedrwydd rywsut.
Fe orffennodd y band eu set gyda thair o’u caneuon mwyaf adnabyddus o bosib, a’r tair erbyn hyn yn cael eu hystyried fel emyn-donau gan y cefnogwyr.
Don’t Look Back in Anger, Wonderwall, a Champagne Supernova.
Roedd pobl oedd yn y dorf erbyn hyn i’w gweld yn wylo, yn parhau i ganu, ac yn dal i’w gilydd. Roedd y catharsis yn wirioneddol.
Roeddwn i hefyd yn teimlo’r gobaith a’r angerdd, i gyd yn uno oherwydd y sain a’r perfformiad gwbl unigryw, gyda dyfnder newydd.
Roedd y cyngerdd hwn yn fwy na cherddoriaeth – roedd yn ddathliad o’r ffaith ein bod dal yma rhywsut.

Casgliad
Doedd cyngerdd aduniad Oasis yng Nghaerdydd ddim yn deimlad o hiraeth yn unig – roedd yn brofiad o adnewyddu.
Roedd eu sain fel y band o’r 2000au cynnar yn hyderus, angerddol, ac yn ddwfn o ran ystyr.
I mi, roedd y noson hon yn fwy na chyngerdd – roedd yn ddathliad o oroesi a gobaith.