Abertawe: Cyhuddo dyn 28 oed o lofruddio babi pum mis oed
Mae dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio babi pum mis oed yng Nghlydach, Abertawe, y llynedd.
Dywedodd Heddlu'r De fod Thomas Morgan, 28, o ardal Gorseinon yn Abertawe, wedi ei gyhuddo o'r llofruddiaeth a ddigwyddodd ar 30 Mawrth 2024.
Ymddangosodd yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 14 Gorffennaf.