Dyn 25 oed o Wynedd wedi marw ar ôl disgyn o falconi ym Malta
Mae dyn 25 oed o Wynedd wedi marw ar ôl disgyn o falconi ym Malta.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Heddlu Malta eu bod wedi cael eu galw am 04:15 fore dydd Gwener i ardal Triq Spinola yn nhref St Julian's.
Wedi i'r heddlu gyrraedd, daeth i'r amlwg fod y dyn o Brydain wedi disgyn o falconi gwesty.
Fe gafodd tîm meddygol eu galw i'r digwyddiad, ond bu farw y dyn yn y fan a'r lle.
Mae Newyddion S4C ar ddeall ei fod o Wynedd, a’i fod ar wyliau ar yr ynys gyda ffrindiau.
Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian: "Mae'r newyddion am farwolaeth dyn 25 oed o Wynedd ym Malta yn wirioneddol erchyll.
"Mae'n gwbl amhosibl dirnad poen y teulu. Rydw innau, ynghyd â gweddill pobl Gwynedd yn meddwl amdanynt yn eu galar."
Mae'r crwner ym Malta wedi cael gwybod am y farwolaeth, ac wedi penodi nifer o arbenigwyr i gynorthwyo gyda'r ymholiadau yn ôl Heddlu Malta. Roedd yr Ynad Philip Galea Farrugia yn arwain yr ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd.
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd yr heddlu wrth wasanaeth newyddion Times of Malta fod y ffordd tu allan i’r gwesty wedi'i chau dros dro i draffig yn gynharach fore Gwener.