Pwyllgor newydd yn gobeithio trawsnewid Gŵyl Fwyd Llanbed

(Chwith i dde) Meryl Thomas, Tina Morris, Elen Page ac Elin Lloyd Williams
(Chwith i dde) Meryl Thomas, Tina Morris, Elen Page ac Elin Lloyd Williams

Mae pwyllgor newydd yn dweud eu bod yn bwriadu trawsnewid Gŵyl Fwyd Llanbed wrth iddyn nhw drefnu'r digwyddiad ar ei newydd wedd am y tro cyntaf.

Elen Page, Meryl Thomas, Tina Morris ac Elin Lloyd Williams yw trefnwyr yr ŵyl eleni, a fydd yn cael ei chynnal ar 26 Gorffennaf.

Wrth drefnu’r ŵyl ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant, mae'r pedair ohonynt wedi gwneud sawl newid gan gynnwys ymestyn hyd y diwrnod a chynnig adloniant gyda'r nos.

Hefyd fe fydd y canwr opera a'r darlledwr Wynne Evans a Barny Haughton o Gegin y Bobl yn coginio mewn digwyddiad arbennig yn yr ŵyl.

"Ni’n grŵp newydd, ni wedi rhoi slant bach wahanol i’r ŵyl eleni, newid lleoliadau stondinau ac ati er mwyn creu fath o pentre’ bwyd," meddai Elen wrth Newyddion S4C.

" 'Da ni hefyd wedi ymestyn y diwrnod a bydd hwnna gobeithio yn denu mwy o bobl, a bydd cerddoriaeth a pobl street food yn dod gyda’r nos.

"Ni wedi cael lot o sylwadau ar social media a fi yn credu bod gwyliau bwyd yn pethau poblogaidd iawn a fi’n credu bod pobl yn hoffi gwario arian nhw ar bethau sydd wedi cael eu creu yng Ngheredigion a Chymru."

Ychwanegodd Tina: “Ni wedi bod yn ffodus eleni achos ni wedi cael cwmnïau’n noddi, ma' 13 o fusnesau lleol wedi noddi sydd yn lot o help i ni.

"A blwyddyn nesa’ ni ishe mynd yn fwy na ‘na, a gobeithio mynd tu fas i Lanbed i gael cefnogaeth hefyd.”

Bwyd lleol yn 'bwysig'

Mae ffigyrau gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn dangos bod y DU wedi mewnforio bwyd a diod gwerth £17 biliwn yn ystod tri mis cyntaf 2025, cynnydd o 6.8% o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Gyda mwy o fwyd yn cael ei fewnforio mae'n hollbwysig i drefnwyr yr ŵyl mai bwydydd a busnesau lleol sydd yn cael eu hybu yn yr ŵyl fwyd.

"Fi’n credu bod ffocws yn Llanbed ar nwyddau lleol, ma' sawl siop gyda ni sydd yn gwerthu bwydydd lleol ac ati," dywedodd Elen.

"‘Da ni wedi mynd ar ôl pobl lleol i fod yn cogyddion i ni hefyd yn yr arddangosfeydd coginio, a ma' nhw’n mynd i arddangos darparwr bwyd lleol organig. Ac ma' hwnna’n rhywbeth sy’n rili rili bwysig.

"I ni, ma' food miles yn hot topic ar hyn o bryd ac mae bob dim yn weddol lleol, y pella’ ma’ nhw’n dod yw Abertawe a Sir Benfro.

"Dwi'n credu bod cynlluniau ar y gweill i datblygu’r ochr epicurean yn yr ardal a ma’ hwnna’n beth da, ac mae rhaid i ni hybu fe er mwyn adeiladu ar hyn."

Image
Gŵyl Fwyd Llanbed

Llanbed 'ar i fyny'

Ar ddechrau'r flwyddyn cyhoeddodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant y byddai 200 o swyddi yn Llanbedr Pont Steffan yn dod i ben ac nad oedd cynnal seilwaith y campws "yn gynaliadwy."

Hefyd cadarnhaodd y brifysgol y bydd cyrsiau israddedig yn cael eu symud o Lanbedr Pont Steffan i Gaerfyrddin.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Cyngor Ceredigion eu bod wedi prynu fferm gyda'r bwriad o "gadw pobl ifanc yn yr ardal" drwy gynnig cyrsiau galwedigaethol.

Mae fferm Llettytwppa yn ffinio â champws Prifysgol Llanbed, a'r bwriad yw cynnig cyrsiau galwedigaethol yno.

Mae Elen yn credu fod Llanbed "ar i fyny" a bod yr ŵyl fwyd yn y dref yn ddigwyddiad arall all ddenu pobl i'r ardal.

“Dwi’n credu bod Llanbed on the up. Ma' lot o bobl efo ffydd yn y dref a dwi’n credu bod digwyddiad fel hyn yn mynd i ddenu pobl," meddai.

“Fi’n credu bod pobl yn rili meddwl bod yr ŵyl fwyd yn rhywbeth sydd ar y calendr a gorfod digwydd, mae e bron fel y Royal Welsh yn Llanbed yn bendant.

“Un ffordd neu’r llall fe fydd hwn yn para. Ma’r ymwelwyr ishe fe ddigwydd, ma’r gwerthwyr ishe fe digwydd, ma' fe’n showcase i Lanbed."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.